Mae cyn-Weinidog dros Ddatblygiad Rhyngwladol llywodraeth San Steffan, wedi colli’r chwip ar ôl iddo bleidleisio yn erbyn y llywodraeth nos Fawrth (Medi 3).
Ac fe ddatgelodd Rory Stewart ar raglen Today, Radio 4, heddiw iddo gael ei ddiswyddo o’r blaid Geidwadol drwy neges destun.
“Dylai hwn fod yn benderfyniad i fudiadau Ceidwadol lleol yn hytrach na phenderfyniad canolog,” meddai. “Dyw hyn ddim yn ffordd geidwadol o ymddwyn.”
Pan ddaeth y neges trwodd neithiwr, roedd Rory Stewart yn derbyn gwobr ‘Gwleidydd y Flwyddyn’ yn seremoni y cylchgrawn i ddynion, GQ.