Mae bachgen 16 oed wedi ymddangos gerbron llys wedi’i gyhuddo o lofruddio dyn yn swydd Caint.

Fe gafodd Andre Bent, 21, o Lambeth, de Llundain, ei drywanu i farwolaeth yn dilyn ffrwgwd yn ystod oriau mân Awst 25.

Mae’r bachgen yn ei arddegau, o Hornsey, gogledd Llundain, wedi ymddangos gerbron ynadon Maidstone. Does dim hawl i’w enwi, am resymau cyfreithiol.

Mae hefyd wedi’i gyhuddo o geisio llofruddio tri dyn arall, ac o fod ag arfau anghyfreithlon yn ei feddiant.

Mae yna bedwar unigolyn arall wedi’u cyhuddo o achosi anhrefn yn dilyn y digwyddiad ar Awst 25, ac mae tri arall wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth.

Mae’r bachgen 16 oed wedi’i gadw yn y ddalfa nes y mae disgwy iddo ymddangos eto gerbron yr un llys ar Fedi 24.