Er bod sefydlu Bwrdd yr Iaith yn 1993 yn “eithriadol o bwysig” yn y cyfnod hwnnw, mae Meri Huws yn dweud fod agweddau at y Gymraeg, ynghyd â’r ddarpariaeth i siaradwyr, bellach wedi newid.

Ac roedd angen newid, meddai.

“Gorfodi ac nid argymell yw’r prif wahanieth ers hynny, ac mae sefydliadau yn gweld hynny,” meddai wrth golwg360 yn ei chyfweliad olaf yn y swydd.

“Mae swydd y Comisiynydd mor wahanol i rôl y Bwrdd… mae’r Comisiynydd yn rheoleiddiwr, mae ganddi bwerau cymaint yn gryfach nag oedd gan y Bwrdd Iaith…

“Argymell newid oedd y Bwrdd, ond mi alla’ i orfodi newid a bod yn fwy cadarn o ran disgwyliadau, a bod yn rheoleiddiwr i wneud yn siŵr bod hynny yn digwydd.”

Bygythiad

Daeth swydd Comisiynydd yr Iaith o dan fygythiad yn 2017 pan alwodd Gweinidog y Gymraeg ar y pryd, yr Aelod Cynulliad Alun Davies, am gael gwared ar y swydd.

“Roedd hi’n gyn-amserol i newid y gyfundrefn ar ôl llai na phum mlynedd,” meddai Meri Huws. “Dw i ddim yn meddwl bod y dystiolaeth wedi bodoli ar y pryd i newid y drefn.

“Dw i’n meddwl mai’r un dystiolaeth ag Alun Davies gafodd Eluned Morgan (y gweinidog sy’n gyfrifol am y Gymraeg yn llywodraeth Cymru) ddechrau Chwefror eleni, a dyna pam wnaeth hi newid ei meddwl (am gael gwared â swydd Comisiynydd y Gymraeg) ryw bum wythnos yn ôl.”