Wrth iddi roi’r gorau i’w swydd yn Gomisiynydd y Gymraeg yr wythnos hon, mae Meri Huws yn dweud mai “annibyniaeth y rôl” yw un o’r pethau pwysicaf sydd ange ei warchod.

A o’i phrofiad hi dros y naw mlynedd diwethaf, meddai, dyma sydd wedi sicrhau fod yr iaith yn cael “ei hwyluso”.

“Dyw’r Comisiynydd ddim yn gweithio mewn gagendor,” meddai wrth golwg360.

“Mae’r bartneriaeth gyda’r Llywodraeth a sefydliadau yn bwysig, ond ar ddiwedd y dydd mae’r annibyniaeth yn bwysig er mwyn gallu sefyll yn ôl a chraffu ar sefyllfa a meddwl.”

Mae swydd y Comisiynydd yn dilyn modelau gwledydd eraill fel sydd i’w cael yn Cosofo, Canada ac Iwerddon.

“Dw i’n teimlo fod y model yn briodol,” meddai Meri Huws. “Mae’n un sydd yn cael ei adnabod ar draws y byd ac sy’n gweithio o ran ceisio amddiffyn a hyrwyddo ieithoedd lleiafrifol.

“Mae hi’n llais annibynnol i’r Gymraeg.”