“Does neb yn llwyddo’n berffaith yn y byd yma, a faswn i ddim yn gallu dweud fy mod i wedi llwyddo’n llwyr yn y swydd yma.”
Mae Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, yn rhoi’r gorau i’r gwaith yr wythnos hon, gan ymfalchïo’n fawr mewn nifer o ddatblygiadau mae hi wedi eu dwyn i fwcwl ers 2012.
“Dw i’n falch ein bod ni wedi rhoi’r brics cyntaf yn y wal, ac mae angen adeiladu ar hynny nawr,” meddai wrth golwg360, gan restrru safonau, maes iechyd, a sefydlu’r swydd ei hun fel rhai o’r pethau y mae hi fwyaf balch ohonyn nhw.
“Dw i’n falch o’r gwaith rydyn ni wedi gwneud o ran sefydlu safonau, mae ymwybyddiaeth o’r Gymraeg wedi cynyddu llawer.
“Y gwaith polisi dw i’n fwyaf bach ohonyn nhw yw’r gwaith rydyn ni wedi gwneud o gwmpas iechyd – iechyd meddwl, dementia, iechyd plant o fewn y gwasanaeth iechyd…
“Roedd y gwaith wnaethon ni ar feddygon teulu a’r ddarpariaeth honno yn un dw i’n dal i weld sy’n cael effaith ar y ffordd mae pobol yn cynllunio’r gwasanaethau. Nawr, maen nhw’n gofyn, sut?”
Creu sefydliad newydd
Un o’r pethau y mae Meri Huws wedi ei fwynhau fwyaf yn ei chyfnod yn Gomisiynydd y Gymraeg yw’r “her o greu sefydliad” meddai wedyn.
“Mae bodolaeth y swydd ynddi ei hun, a sut mae hi wedi pwyso ar sefydliadau, wedi rhoi ymwybyddiaeth bellach i’r iaith Gymraeg.
“Dw i’n mwynhau dechrau gweld newid yn agweddau sefydliadau – mae llai o bobol, fel prif weithredwyr, yn ofyn i mi pam ydw i’n gwneud hyn… Nawr, maen nhw’n gofyn, sut allwn ni helpu?”