Mae’r Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson, wedi ymddiheuro “yn llaes” wedi iddo gael ei gyhuddo o wneud sylw amhriodol wrth Ysgrifennydd Tramor yr wrthblaid yn San Steffan.
Mae Boris Johnson wedi dweud sori am “unrhyw anghwrteisi” neu “elfen rywiaethol” y gallai Emily Thornberry fod wedi’i deimlo o ganlyniad i’w sylw.
“Doedd gen i ddim bwriad achosi loes,” meddai wedyn, “a dw i’n ymddiheuro’n llwyr ac yn llaes os ydw i wedi tramgwyddo Ms Thornberry.”