Mae ymladdwyr tân yn dweud fod pawb yn ddiogel, wedi i dân gynnau mewn bloc o fflatiau ger dinas Leeds yng ngogledd Lloegr.
Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gorllewin Sir Efrog eu galw tua 10.30yb heddiw i Poplar Way, Bramley, ac fe gafodd dyn, dynes a phlentyn eu cludo i’r ysbyty yn dioddef o effeithiau anadlu mwg.
Fe gafodd chwech injan dân eu hanfon i ymladd y fflamau.
Erbyn hyn, dim ond tair injan sydd ar y safle, meddai llefarydd ar ran y gwasanaeth, ac mae pawb sy’n byw yn y fflatiau yn saff.