Theresa May (Llun: Hannah McKay/PA)
Byddai Prif Weinidog Prydain, Theresa May yn barod i fynd i ryfel er mwyn cadw gafael Prydain ar Gibraltar, yn ôl cyn-arweinydd y Ceidwadwyr, yr Arglwydd Michael Howard.

Mae Theresa May eisoes wedi awgrymu ei bod hi’n barod i frwydro’n galed i ddal gafael Prydain ar yr ynys yn sgil y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond mae’r Undeb Ewropeaidd wedi awgrymu mewn dogfen gan lywydd Cyngor Ewrop, Donald Tusk y bydd gan Sbaen ddylanwad cryf ar yr hyn sy’n digwydd i’r ynys.

Mae Theresa May wedi dweud wrth arweinydd Gibraltar, Fabian Picardo fod Prydain “wedi ymrwymo’n llwyr” i sicrhau’r cytundeb gorau i’r ynys fel rhan o’r trafodaethau Brexit.

Mae dogfen Donald Tusk yn awgrymu y bydd gan lywodraeth Sbaen ran i’w chwarae wrth benderfynu a fydd Gibraltar yn cael llais mewn trafodaethau ar fasnach.

Dywedodd llefarydd ar ran Downing Street y byddai Llywodraeth Prydain yn parhau i “gynnwys Gibraltar yn llawn” mewn unrhyw drafodaethau sy’n effeithio ar eu dyfodol.

Rhyfel y Malfinas

Union 35 o flynyddoedd ers dechrau Rhyfel y Malfinas, mae’r Arglwydd Howard wedi cymharu’r rhyfel hwnnw â’r sefyllfa yn Gibraltar.

Dywedodd wrth Sky News: “35 o flynyddoedd yn ôl yr wythnos hon, fe anfonodd prif weinidog benywaidd arall weithlu hanner ffordd ar draws y byd i amddiffyn rhyddid carfan fach arall o bobol Brydeinig yn erbyn gwlad arall sy’n siarad Sbaeneg, a dw i’n hollol sicr y bydd ein prif weinidog presennol yn dangos yr un bwriad wrth sefyll ochr yn ochr â phobol Gibraltar.”

Mae Gibraltar wedi’i rheoli gan Lywodraeth Prydain ers 1713, ac mae ganddi statws tiriogaeth dramor.

Beirniadu

Mae sylwadau’r Arglwydd Howard wedi cael eu beirniadu gan y pleidiau eraill.

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron ei bod hi’n “anghredadwy” fod rhyfel yn cael ei grybwyll yn ystod yr wythnos pan gafodd Erthygl 50 ei danio.

Mae llefarydd materion tramor Llafur, Emily Thornberry wedi beirniadu’r sylwadau “ymfflamychol”.