Bluff Cove ar Ynysoedd y Malfinas
Mae cannoedd o gyn-filwyr wedi cymryd rhan mewn gwasanaeth arbennig union 35 mlynedd ar ôl i Ryfel y Malfinas ddechrau.

Fe ddechreuodd y rhyfel ar ôl i’r Ariannin geisio cipio’r ynysoedd yn 1982.

Cafodd y gwasanaeth ei gynnal yn y Gerddi Coffa Cenedlaethol yn Swydd Stafford.

Cafodd y gwasanaeth ei arwain gan y Parchedig David Cooper, oedd wedi gwasanaethu’r parafilwyr yn ystod y rhyfel.

Fe gyfeiriodd at flynyddoedd o ddioddef i’r cyn-filwyr ers diwedd y rhyfel, ond hefyd am y rheiny sydd wedi byw bywydau hapus dros y 35 mlynedd diwethaf.

Cafodd 255 o filwyr Prydain eu lladd yn y Malfinas, ac fe fu farw tri o bobol gyffredin hefyd.