Michelle O'Neill (Llun: Sinn Féin)
Dylai Gogledd Iwerddon gynnal refferendwm ar adael yr Undeb Ewropeaidd ac ymuno â gweriniaeth Iwerddon “cyn gynted ag sy’n bosib,” yn ôl arweinydd newydd Sinn Féin.

Mae Michelle O’Neill yn dweud y bydd Brexit yn “drychineb” i’r rhanbarth, a bod refferendwm ar uno Iwerddon yn un modd o osgoi ei effeithiau.

Daw’r galw am bleidlais i uno Iwerddon yn sgil galwad diweddar Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon, am ail refferendwm annibyniaeth i’r Alban. Fe fyddai’n gwyrdroi cyfaddawd mawr Arthur Griffith yn 1921.

Yn debyg i’r Alban mi wnaeth Gogledd Iwerddon bleidleisio i aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn refferendwm flwyddyn ddiwethaf gyda 56% o blaid aros a 44% o blaid gadael.

Gall effeithiau Brexit fod yn amlycach yng Ngogledd Iwerddon ac mae Theresa May wedi gwrthod diystyrru’r posibiliad o gyflwyno ffin galed â Gweriniaeth Iwerddon.

“Mi fydd Brexit yn drychineb i’r economi, a’n drychineb i bobol Iwerddon. Rhaid cynnal refferendwm ar uno Iwerddon cyn gynted ag sy’n bosib,” meddai Michelle O’Neill.