Y Seneddwr Fintan Warfield
Mae un o aelodau etholedig ieuenga’ Sinn Féin heddiw yn dweud mai’r ffaith i Arthur Griffith arwyddo Cytundeb gyda Lloegr yn cytuno i rannu Iwerddon yn Ogledd ac yn Weriniaeth, sydd i gyfri’ am deimladau cymysg ei blaid tuag ato heddiw.

Yn 1921, Arthur Griffith oedd yn arwain y ddirprwyaeth i  Lundain a chynnal y misoedd o drafodaethau sy’n arwain at gyhoeddi Cytundeb Lloegr-Iwerddon ar Ragfyr 6 y flwyddyn honno.

Nid oedd Arthur Griffith ei hun yn hollol fodlon ar y cyfaddawdu a fu, ond ar ôl anerchiad rymus ganddo yn y Dàil yn Nulyn, mae’r seneddwyr yn derbyn y telerau. Mae Eamonn de Valera yn ymddiswyddo o’r gadair, ac Arthur Griffith yn dod yn Arlywydd ar senedd newydd y Weriniaeth newydd.

Mae hyn yn arwain ar Ryfel Cartref yn Iwerddon.

“Roedd Arthur Griffith yn ffigwr pwysig iawn yn natblygiad cenedlaetholdeb Gwyddelig,” meddai’r Seanadóir Fintan Warfield, 26, wrth golwg360. Mae’n gyn-Faer Cyngor De Dulyn.

“Fel sylfaenydd y gymdeithas Sinn Féin gynta’ yn 1905, fe arweiniodd Arthur Griffith y ffordd o ran gwrthsefyll yr Undeb gyda Phrydain. Fe wnaeth hynny trwy gredu y gallai Iwerddon sefyll ar ei thraed ei hun, ac y dylai Aelodau Seneddol Iwerddon gadw draw o San Steffan a sefydlu eu cynulliad eu hunain.

“Fodd bynnag, doedd Arthur Griffith ddim yn Weriniaethwr, ac fe arwyddodd y Cytundeb yn 1921 a rannodd Iwerddon,” meddai wedyn. “Hefyd, roedd yn wleidydd ceidwadol ar faterion cymdeithasol ac economaidd.

“Felly, tra’n cydnabod ei arwyddocad yn hanes Iwerddon, mae gan Sinn Féin deimladau cymysg tuag at Arthur Griffith.”

Y gyfres o erthyglau

Gwleidydd y slymiau yn hanu o deulu bonedd yn Eryri

Sinn Féin: “Ni ein hunain”, nid “Ni yn unig” meddai Arthur Griffith

Hen-hen-daid Arthur Griffith yn rhoi lloches i’r Morafiaid