Ar drothwy ei ben-blwydd yn 70 yr wythnos nesa’, mae Dafydd Elis-Thomas wedi dweud wrth golwg360 nad oes fwriad ganddo i roi gorau i droedio coridorau’r Cynulliad eto.
Mae’n bosib na fydd etholaeth yr Aelod Cynulliad, Dwyfor Meirionnydd, yn bodoli erbyn tymor nesa’r Cynulliad dan ffiniau newydd San Steffan, ac mae e’n derbyn mai “mater o be’ mae pobol eisiau” fydd ei dynged ym Mae Caerdydd. Ond fydd o’i hun ddim yn rhoi’r gorau iddi.
Er mai ffiniau etholaethau San Steffan sy’n destun newid, mae Dafydd Elis-Thomas yn credu y dylai ffiniau’r Cynulliad newid hefyd i gyd-fynd â rhai San Steffan.
Mae e’n gweld y newid fel cyfle i gynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad i 87, a chael tri aelod ar gyfer pob etholaeth, gan gael gwared ag aelodau rhanbarthol.
Byddai hyn, meddai, yn arwain at “well democratiaeth” ac yn gwneud i “bob pleidlais gyfrif mwy.”
“70 ddim yn hen”
“Dim ond 69 ydw i… wel 70, dydi hwnna ddim yn hen erbyn hyn,” meddai wrth golwg360, mewn cyfweliad arbennig cyn ei ben-blwydd ddydd Mawrth nesa’, Hydref 18.
Mae’n dweud ei fod yn dal i redeg tair gwaith yr wythnos a’i fod yn cerdded mynyddoedd a thra’i bod yn gallu gwneud hynny bydd yn “parhau i weithio.”
Mae modd darllen mwy gan Dafydd Elis-Thomas yn rhifyn yr wythnos hon o gylchgrawn Golwg, ac mae modd ei glywed yn siarad yn y clip yma: