Fe allai Prif Weinidog gwledydd Prydain, Theresa May roi’r hawl i’r Ceidwadwyr graffu ar gynlluniau Brexit yn dilyn galwad gan y Blaid Lafur am gael hawl tebyg.

Ond mae hi’n mynnu na fydd pleidlais, er i’r Blaid Lafur lwyddo i alw dadl y prynhawn yma.

Mae’r Blaid Lafur yn cyflwyno cynnig yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw yn galw am yr hawl i gael craffu’n iawn ar y cynlluniau cyn i Gymal 50 gael ei weithredu er mwyn dechrau ar y broses ffurfiol o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond mae May wedi cyflwyno gwelliant yn rhoi’r hawl i’r Ceidwadwyr gefnogi’r cynnig ond yn ychwanegu amodau bod rhaid parchu canlyniad y refferendwm ac na ddylid tanseilio strategaeth Llywodraeth Prydain yn ystod y trafodaethau.

Mae’r cyn-Dwrnai Cyffredinol Dominic Grieve wedi rhybuddio y gallai’r Llywodraeth fethu pe na bai’r holl Senedd yn cael craffu ar y cynlluniau.

Mae gwelliant May yn golygu y bydd modd i’r Ceidwadwyr gefnogi’r cynnig tra eu bod nhw hefyd yn parchu’r gwelliant pe bai anghytuno ynghylch ei gynnwys.

Mae Llafur hefyd yn galw ar Lywodraeth Prydain i ateb 170 o gwestiynau ar gynnwys cynllun Brexit, wrth i aelodau blaenllaw’r wrthblaid ddweud y byddai methu ateb un o’r cwestiynau’n golygu nad oes gan y Llywodraeth gynllun clir.