Mae Samsung yn disgwyl colli gwerth £1.9 biliwn o elw ar ôl gorfod tynnu ei ffôn Galaxy Note 7 o’r farchnad yn sgil pryderon iechyd a diogelwch.
Mae rhai o’r ffonau symudol gafodd eu gwerthu eisoes wedi gorboethi ac wedi ffrwydro am fod gwall yn y batri. Bu’n rhaid i Samsung roi stop ar y gwerthiant ddydd Mawrth.
Dywedodd y cwmni technoleg o Dde Korea ei fod yn disgwyl i elw gweithredol o 5.2 triliwn (£3.7 biliwn) o’i gymharu a’r 7.8 triliwn (£5.6 biliwn) disgwyliedig yn y drydydd chwarter.
Ar ben hynny, mae gwerth y cwmni wedi plymio ers i’r newydd dorri am y ffonau gwallus ac mae bellach werth £14.6 biliwn yn llai ym marchnad yr Unol Daleithiau.
Roedd Samsung wedi oedi cyn lansio’r Note 7 yng ngwledydd Prydain ym mis Medi wedi i ymchwiliad ddangos bod gwall yn y batri yn achoi i’r ffôn orboethi.