Mae cwmni ceir Toyota yn galw 340,000 o geir trydan heibrid Prius yn eu holau, oherwydd diffygion ar eu brêcs.

Mae’r ceir yn cynnwys 212,000 o geir yn Japan, a 94,000 yng Ngogledd America.

Mae cwmni Toyota Motor Corp wedi cyfadde’ derbyn adroddiadau am ddamweiniau, gwrthdrawiadau, anafiadau a marwolaethau, ond maen nhw wedi gwrthod rhoi manylion o’r achosion, gan ddweud ei fod yn dal yn y broses o ymchwilio i bob un o’r adroddiadau.

Y broblem yn yr achos hwn,  meddai Toyota wedyn, ydi fod y cêbl brêc parcio yn gallu dod yn rhydd yn annisgwyl, gan achosi’r brêcs i beidio gweithio. Felly, os ydi’r car yn cael ei adael mewn gêr, yn hytrach na ‘park’, fe allai rowlio ymaith.

Mae 17,000 o geir Prius yn cael eu galw’n ôl yn Ewrop, o blith cerbydau gafodd eu cynhyrchu yn ninas Toyota rhwng Awst 2015 a Hydref 2016.