Rhybudd ar deledu rhag Corwynt Nicole
Mae awdurdodau Bermuda yn rhybuddio’i thrigolion rhag corwynt Nicole, sydd ar ei ffordd tua’r ardal.

Mae Canolfan Corwyntoedd yr Unol Daleithiau yn dweud fod gwyntoedd o tua 85 milltir yr awr ar eu ffordd, ac y gallen nhw gryfhau eto at ddydd Iau.

Yn ôl Gweinidog Diogelwch Cenedlaethol Bermiwda, Jeff Baron, mae corwynt Nicole yn fygythiad go iawn.

Mae’r corwynt ar hyn o bryd tua 360 milltir i’r de-orllewin o Bermiwda.