Mae arolwg wedi canfod bod dros chwarter o feddygon teulu Cymru yn ystyried rhoi’r gorau i’w swyddi, a dros 80% yn pryderu tros ddyfydol canolfannau meddygol.
Bu Cymdeithas Feddygol Prydain (BMA) yn holi’r meddygon teulu am eu llwyth gwaith, yr effaith ar eu bywydau personol yn ogystal a’u bwriad i aros yn y swydd.
Mae’r BMA eisoes wedi rhybuddio bod argyfwng yn wynebu meddygon teulu yng Nghymru, wrth i ffigyrau ddangos bod mwy o feddygfeydd nag erioed mewn peryg o gau. Fe ddaeth i’r amlwg hefyd bod 15% yn llai o fyfyrwyr Cymru wedi gwneud cais i astudio meddygaeth y flwyddyn hon.
Fe fydd y gymdeithas yn lansio ymgyrch, Persgriptiwn Brys i Feddygon Teulu yng Nghymru, wrth i’r arolwg gael ei chyhoeddi heddiw.
Newid gyrfa
Cafodd yr arolwg ei yrru i bob un o feddygon teulu Cymru ac fe gafwyd ymateb gan un o bob pump.
O’r rheiny, fe ddywedodd 27% eu bod yn ystyried newid gyrfa ac roedd 14% yn bwriadu mynd i weithio dramor o fewn y flwyddyn nesa’.
Roedd 60% yn anhapus hefo’r llwyth gwaith o fewn y swydd a 58% o’r farn eu bod nhw wedi cael llai o amser rhydd yn y flwyddyn ddiwetha’.
Roedd tri chwarter yr ymatebion yn dweud bod iechyd y staff yn eu canolfannau meddygol wedi cael ei effeithio yn sgil llwyth gwaith ac roedd hanner yn dweud na fydden nhw’n argymell gyrfa yn y maes i eraill.
Mae golwg360 wedi gofyn am ymteb Llywodraeth Cymru i’r arolwg.