Mae heddlu America yn edrych am “berson o ddiddordeb” ar ôl i gerflun o Donald Trump yn noethlymun gael ei ddwyn yn Ne Florida.

Dywedodd heddlu Miami fod y cerflun o ymgeisydd y Gweriniaethwyr i fod yn arlywydd nesaf yr Unol Daleithiau, wedi cael ei ddwyn o ardal Wynwood.

Dywedodd swyddogion diogelwch yn Wynwood wrth yr heddlu eu bod nhw wedi gweld grŵp o ddynion yn rhoi’r cerflun mewn tryc.

Roedd tyst wedi tynnu llun o’r cerbyd wrth iddo adael ac mae’r heddlu nawr yn edrych am y perchennog cofrestredig fel “person o ddiddordeb”.

Mae’n un o sawl cerflun noethlymun o Donald Trump, a wnaeth gymdeithas gelf, Indecline, eu gosod ar draws America ym mis Awst.