Mae dyn gafodd ei garcharu am oes am lofruddiaeth ddwbl yn 1989, wedi cyfaddef iddo ladd carcharor arall trwy ei guro i farwolaeth gyda charreg o danc pysgod.

Y gred yw bod Victor Castigador wedi cuddio’r garreg y tu mewn i hosan cyn ymosod ar Sidonio Teixeira mewn gweithdy yng ngharchar Long Lartin, Swydd Gaerwrangon.

Roedd Victor Castigador, 61, yn y carchar am oes am losgi dau swyddog diogelwch i farwolaeth mewn arcêd yng nghanol Llundain ym mis Ebrill 1989.

Bu farw ei ddioddefwr diweddaraf, oedd yn y carchar am oes ei hun am lofruddio ei ferch tair oed, ar ôl dioddef anafiadau i’w ben yn Long Lartin ar 20 Mehefin eleni.

Trydydd carcharor i farw

Mae marwolaeth Teixeira, a gafodd ei garcharu yn 2007, yn destun ymchwiliad gan yr Ombwdsmon Carchardai a Gwasanaeth Prawf annibynnol.

Ef yw’r trydydd carcharor i gael ei ladd gan garcharor arall yn Long Lartin, sy’n garchar Categori A, ers 2013.

Bydd Victor Castigador, sy’n wreiddiol o Ynysoedd y Philipinau, yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Birmingham ar 21 Hydref.

Llofruddiaeth “ffiaidd”

Cafodd Castigador ei ddedfrydu i o leiaf 25 o flynyddoedd yn dilyn ei lofruddiaethau cyntaf, ond fe wnaeth yr ysgrifennydd cartref gynyddu’r ddedfryd i un oes yn ddiweddarach.

Roedd y llofruddiaeth ddwbl “didrugaredd, ffiaidd a chiaidd” wedi hawlio bywydau dau swyddog diogelwch, y ddau yn eu hugeiniau, a gafodd eu clymu a’u rhoi ar dân mewn arcêd yn Soho.

Cafodd Victor Castigador, oedd yn 34 ar y pryd, ac yn byw yn Bow, dwyrain Llundain, ei arestio yn y dyddiau yn dilyn y lladrad, a adawodd dau ddioddefwr arall ag anafiadau difrifol.