Huw Prys Jones yn trafod rhai o ganlyniadau’r etholiad ddydd Iau

Mae’n hawdd deall pam fod Plaid Cymru a’r Blaid Lafur yn dathlu y penwythnos yma – er bod hynny am resymau gwahanol i’w gilydd.

All neb wadu bod y Blaid Lafur wedi gwneud yn llawer gwell na’r disgwyl wrth ddod mor agos at gadw pob un o’i seddau, a thrwy hynny sicrhau eu bod yn dal gafael mewn grym.

Yn achos Plaid Cymru, mae un llwyddiant nodedig am fod yn fwy na digon i anghofio dros dro am berfformiadau siomedig mewn sawl etholaeth.

Roedd yn etholiad cwbl siomedig i’r Blaid Geidwadol ar y llaw arall, ar ôl llwyddiannau mor ysgubol y llynedd. Ac i’r Democratiaid Rhyddfrydol, mae’n anodd rhagweld unrhyw ddyfodol iddyn nhw.

Ac er bod Ukip yn ymgolli yn eu dathliadau nhw, rhaid nodi nad oedd eu cyfran o’r bleidlais – sef 13% – yn fawr iawn o ystyried ein bod o fewn chwe wythnos i’r refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd. Byddai disgwyl iddyn nhw fod yn denu cefnogaeth sylweddol o blith y bobl sy’n teimlo’n gryf dros adael Ewrop.

Problemau allanol

Roedd gan y Blaid Lafur a’r Torïaid broblemau a oedd y tu hwnt i reolaeth eu harweinwyr yng Nghymru, ac felly mae’n debyg nad yw’n syndod i’w cyfran o’r bleidlais fynd i lawr.

Ar yr olwg gyntaf, mae’n ymddangos bod y Blaid Lafur wedi gallu ymdrin yn well gyda’r problemau hyn, er gwaethaf Jeremy Corbyn a Ken Livingstone. Yn sicr, roedd llwyddo i ddal gafael ar fwy o’u seddau nag a wnaeth y Torïaid yn gryn gamp.

Eto i gyd, fe welson nhw fwy o gwymp yn eu cyfran ledled Cymru nag a wnaeth y Torïaid, dim ond bod y colledion mewn pleidleisiau yn tueddu i gael ei adlewyrchu mewn mwyafrifoedd llai. Mae’n ymddangos na lwyddodd y Torïaid i ddenu eu cefnogwyr allan i bleidleisio gystal â’r disgwyl.

Problemau y tu hwnt i’w rheolaeth oedd yn bennaf gyfrifol am gwymp y Democratiaid Rhyddfrydol hefyd.

Amrywiaeth daearyddol

Un o’r pethau mwyaf diddorol ynglŷn â’r etholiad oedd yr amrywiaeth mewn patrwm pleidleisio rhwng gwahanol rannau o Gymru a’i gilydd.

Roedd yr amrywiaeth yn llawer mwy cymhleth na rhwng rhanbarthau a’i gilydd, gan fod patrymau gwahanol iawn i’w gweld rhwng etholaethau a oedd yn ddigon tebyg ac agos at ei gilydd.

Roedd hyn yn arbennig o wir am y cymoedd, sy’n ymddangos fwyfwy bellach fel clytwaith o etholaethau annibynnol nag fel rhanbarth gwleidyddol.

Er llwyddiant nodedig Plaid Cymru yn y Rhondda, a’r gogwydd ysgubol tuag ati ym Mlaenau Gwent, ni welwyd unrhyw symudiad a oedd yn ymylu ar fod yn debyg drwy weddill y cymoedd.

Mewn etholaethau sy’n ffinio â’r Rhondda, cafwyd cwymp ym mhleidlais Plaid Cymru yng Nghwm Cynon, ac er i’r bleidlais gynyddu ym Merthyr, roedd yn drydydd y tu ôl i Ukip yno. Hyd yn oed yng Nghaerffili, lle daeth o fewn tua 1500 pleidlais i gipio’r sedd, aeth ei chyfran o’r bleidlais i lawr o gymharu â 2011.

Yn Sir Gaerfyrddin hefyd roedd amrywiaeth rhwng etholaethau cyfagos a’i gilydd, gyda Phlaid Cymru’n ennill tir yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ond yn llithro’n ôl yn Llanelli a cholli tir yn sylweddol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro.

Pleidleisiau personol

Un o nodweddion amlycaf yr etholiad oedd pwysigrwydd pleidleisiau personol mewn gwahanol etholaethau. Mae hyn i’w weld yn rhai o gadarnleoedd Plaid Cymru, ac mae’n sicr o fod yn arwyddocaol iawn yn llwyddiant Julie Morgan a Jane Hutt i ddal gafael ar Ogledd Caerdydd a Bro Morgannwg i Lafur.

Ond mae’n sicr mai yn y Rhondda a Brycheiniog a Maesyfed y gwelwyd hyn amlycaf, gyda buddugoliaethau ysgubol Leanne Wood a Kirsty Williams yn eu hetholaethau, a pherfformiadau a oedd yn rhagori’n fawr ar berfformiadau cyffredinol eu pleidiau.

Mae’n gwbl amlwg fod eu perfformiadau ar y teledu wedi creu argraff ac ennill cefnogaeth gref o fewn eu hetholaethau eu hunain.

Yn achos Leanne Wood, mae hi’n ferch o’r Rhondda a byth yn colli cyfle i atgoffa pobl o’r ffaith, ac mae’n hawdd gweld pam y byddai ei hetholwyr yn ei hystyried yn lladmerydd rhagorol drostyn nhw, ac yn cynhesu ati fel ‘un ohonyn nhw’.

Mae arolygon yn awgrymu ei bod yn boblogaidd ymysg etholwyr yng Nghymru yn gyffredinol hefyd, ond anodd iawn ydi barnu faint o ffactor a fu hyn mewn etholaethau eraill.

Yn achos Kirsty Williams, mae’r cynnydd yn ei phleidlais etholaethol ar un ystyr yn fwy o syndod o weld mor druenus oedd perfformiad ei phlaid ym mhob etholaeth arall bron.

Sylfaen i adeiladu arno

Y prif lwyddiant a gafodd Plaid Cymru oedd sylfaen o gefnogaeth i adeiladu arno.

Dros y blynyddoedd nesaf, mi fydd angen iddi edrych o ddifrif ar yr hyn sy’n rhaid iddi ei wneud i wella ei hapêl.

Yn yr etholiad eleni, roedd wedi sylfaenu llawer gormod o’i hapêl yn yr etholiad yma ar yr angen am ‘newid’.

Roedd y ddadl fod yn bryd cael newid ar ôl 17 mlynedd o lywodraeth Lafur yn swnio’n iawn – ond mae’n amlwg nad oedd yn ddigon.

Roedd Plaid Cymru’n dibynnu’n ormodol ar gyflwyno set o addewidion, ac os oes unrhyw beth yn meithrin siniciaeth ymysg etholwyr, addewidion ydi hynny. Doedd ganddi ddim neges ddigon clir yn dweud beth oedd y llywodraeth Lafur yn ei wneud o’i le a beth y bydden nhw’n ei wneud yn wahanol.

Mae Plaid Cymru ymhell o fod mewn sefyllfa ddigon cryf i ddisgwyl am gefnogaeth dim ond am ei bod yn ddewis arall yn lle Llafur.

Mae’r bobl sydd wedi blino ar Lafur yr un mor debygol o droi at y Torïaid neu Ukip ag y maen nhw at Blaid Cymru. Ac fel y trôdd pethau allan, mae’n ymddangos nad oedd cyfran ddigon uchel o etholwyr yn dyheu am newid prun bynnag.

Yr her fawr i Blaid Cymru, ac i Leanne Wood yn benodol, rwan fydd dal gafael ar y Rhondda. Er bod y Blaid wedi ennill yno o’r blaen dydi hi erioed wedi llwyddo i ddal y sedd, ac mae dal seddau lawn cyn bwysiced â’u cipio.

Yn y chwe wythnos nesaf fodd bynnag, y dasg bwysicaf i Leanne Wood a Phlaid Cymru fydd helpu sicrhau pleidlais o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae gofyn i’r arweinydd fod yn defnyddio’i phoblogrwydd a’i hamlygrwydd i’r eithaf i  ysbrydoli cymaint ag sy’n bosibl o’i chefnogwyr i bleidleisio i drechu cenedlaetholwyr Seisnig Ukip a’u tebyg ar 23 Mehefin.