Nicola Sturgeon - parato ar gyfer llywodraeth leiafrifol (llun: PA)
Mae arweinydd yr SNP, Nicola Sturgeon, wedi addo rhoi buddiannau’r Alban uwchlaw gwleidyddiaeth plaid wrth iddi baratoi ar gyfer ffurfio llywodraeth newydd.

Er i’r SNP ennill llawer mwy o bleidleisiau ac aelodau na’r un blaid arall ddydd Iau, mae wedi colli’r mwyafrif a oedd ganddi dros bawb yn senedd yr Alban.

Fe fydd arni felly angen cefnogaeth pleidiau eraill i gael ei hail-ethol yn brif weinidog yr wythnos nesaf ac i basio deddfwriaeth ar ôl hynny. Roedd hi eisoes wedi cyhoeddi ddydd Gwener y byddai’n arwain llywodraeth leiafrifol yn y senedd yng Nghaeredin.

Wrth annerch aelodau o’r SNP yn Falkirk, meddai Nicola Sturgeon:

“Fe fydd y llywodraeth y byddaf yn ei harwain yn agored ac yn gynhwysol.

“Fe fydd yn llywodraeth sy’n estyn allan ac yn ymdrechu i adeiladu ar dir cyffredin.

“A dw i’n credu bod tir cyffredin i’w gael ar addysg, ar yr economi, ar yr amgylchedd ac ar lawer o faterion eraill dw i’n siŵr.

“Dyna yw fy ymrwymiad, i weithio uwchlaw ffiniau plaid er budd ein gwlad.”

‘Ennill yr etholiad’

Dywedodd y byddai hefyd yn atgoffa’r gwrthbleidiau mai’r SNP a enillodd yr etholiad.

“Fe wnaethom ennill â buddugoliaeth lethol, felly er y byddwn yn cyfaddawdu lle mae hynny er budd ein gwlad, mae gennym fandad clir a diamwys i weithredu’r maniffesto y gwnaethon ni ennill yr etholiad hwn arno,” meddai.

“Ac mae gennym yr hawl i fynnu’r gwerthoedd a’r safbwyntiau a nodwyd yn y maniffesto hwnnw.”

Gyda’r SNP ddau aelod yn fyr o fwyafrif dros bawb, gallai cydweithrediad y Gwyrddion gyda chwe sedd a’r Democratiaid Rhyddfrydol gyda phump fod yn allweddol iddyn nhw.

Gwrthblaid newydd

Yn ogystal â cholli’r mwyafrif llwyr, fe fydd Nicola Sturgeon hefyd yn wynebu prif wrthblaid newydd o dan arweiniad Ruth Davidson ar ôl i’r Torïaid guro Llafur i’r trydydd safle.

Mae Ruth Davidson wedi addo “gweithio’n adeiladol lle bo angen” a “herio lle nad ydyn nhw’n gwrando”.

Mae’r Torïaid a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi mynnu na fydd unrhyw gyfaddawdu ynghylch refferendwm arall ar annibyniaeth, gyda Ruth Davidson yn dweud nad oes gan yr SNP ddim mandad, dim mwyafrif na dim achos dros gynnal pleidlais o’r fath.

Yn y cyfamser, mae Kezia Dugdale, yr arweinydd Llafur, wedi dweud y bydd yn parhau fel arweinydd Llafur yr Alban, ar ôl y canlyniad gwaethaf erioed i’w phlaid. Mae nifer eu seddau i lawr i 24 – sydd 13 yn llai na’r hyn a gawson nhw yn 2011.

Dywedodd fod y canlyniad yn “dorcalonnus” ond y byddai’n “dal i frwydro dros werthoedd Llafur”.