(Llun: PA)
Huw Prys Jones yn taflu golwg dros rai o’r etholaethau a all fod yn werth eu gwylio nos Iau

‘Gyda’n gilydd dros Gymru’. ‘Y newid sydd ei angen.’ ‘Sicrhau newid go iawn i Gymru.’ ‘Cymru sy’n gweithio i chi.’

Sloganau pedair plaid wahanol yn ymgyrch etholiad y Cynulliad yw’r rhain – pedair plaid sy’n dweud llawer iawn o bethau tebyg iawn i’w gilydd fel mae’r slogaanu’n ei awgrymu.

Pa ryfedd felly fod canran mor isel o etholwyr yn debygol o droi allan i bleidleisio ddydd Iau.

Waeth heb â chwyno bod yr etholiad yng nghysgod digwyddiadau mwy yn y byd tu allan i Gymru, oherwydd gallai hynny fod yn wir mewn unrhyw etholiad. Go brin y gellir honni o ddifrif ychwaith fod ymgyrch refferendwm Ewrop yn tarfu’n ormodol ar yr etholiad.

Yn eironig, fodd bynnag, gallai troad allan isel ei gwneud hi’n haws i newidiadau annisgwyl a dramatig ddigwydd yn y canlyniadau.

Dyna pam y gallwn fod yn sicr y canlyniadau nos Iau yn werth eu gwylio.

Arolygon

Nid oes argoelion o unrhyw ddaeargryn etholiadol yn yr arolygon barn hyd yma, er bod y diwethaf yn awgrymu bod Llafur yn colli tir. Mae’n ddigon posibl y bydd helyntion y dyddiau diwethaf wedi ei gwanhau ymhellach.

Mae’n hynod o annhebygol fodd bynnag a all digon o newid ddigwydd dros y dyddiau nesaf i ddisodli Llafur fel llywodraeth.

Mae patrwm etholiadol Cymru yn golygu bod gan Lafur lawer o etholaethau cadarn iawn a fyddai’n gofyn am newid anferthol cyn dechrau colli seddau ar raddfa fawr.

Plaid Cymru a’r Torïaid

Mae’r ymddangos fod brwydr agos rhwng Plaid Cymru a’r Torïaid am fod yn ail. Er nad does y fath beth ag ail wobr yn bod mewn gwleidyddiaeth, mae’n sicr fod y statws o fod yn wrthblaid swyddogol yn rhoi rhyw fath o hygrededd ychwanegol i blaid.

Yr hyn sydd fwyaf diddorol yn y ras rhwng Plaid Cymru a’r Torïaid, fodd bynnag, ydi’r berthynas symbiotig sydd rhwng y ddwy blaid. Mae unrhyw etholaeth y bydd y naill yn llwyddo i’w chipio oddi ar Lafur yn cynyddu siawns y llall o ennill neu gadw sedd ar y rhestr. Yn ogystal, nid yw unrhyw etholaethau ymylol y bydd Llafur yn eu colli yn debygol o roi unrhyw siawns iddi ennill seddau rhestr yn eu lle. Mae colli unrhyw etholaeth i’r gwrthbleidiau felly am olygu gostyngiad yn rhengoedd Llafur er gwaethaf y drefn o gynrychiolaeth gyfrannol sydd yn y Cynulliad.

Y Democratiaid Rhyddfrydol ac Ukip

Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi rhedeg ymgyrch ddigon effeithiol ar lefel genedlaethol, ac mae ganddi aelodau a fu’n uchel eu parch yn y Cynulliad. Gwendid penodol ei sefyllfa fel plaid yng nghyd-destun y Cynulliad ydi ei bod yn dasg hynod o anodd i AC rhestr ennill pleidlais bersonol.

O’r herwydd mae’n anodd iawn rhagweld sut y gall osgoi colli tir. Oherwydd Ukip byddai’n rhaid i’r Democratiaid Rhyddfrydol ennill mwy i dir i sicrhau seddau rhestr nag y bu’n rhaid iddi yn y gorffennol.

Mae Ukip, ar y llaw arall, yn sicr o gael seddau rhestr ar blât, waeth pa mor wael ydi rhai o’r hymgeiswyr, gan fod cyfran o’r etholwyr yn teimlo’n ddigon cryf yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd i bleidleisio iddyn nhw am y rheswm hwnnw yn unig.
Y Gogledd

Ar hyn o bryd, mae Llafur yn dal pum etholaeth, a Phlaid Cymru a’r Torïaid ddwy yr un.

Mae’n ymddangos yn weddol sicr y bydd Llafur yn dal gafael ar o leiaf dair o’i seddau yn y gogledd-ddwyrain. Ers yr etholiad diwethaf, ar ôl i’r Torïaid gipio Dyffryn Clwyd, roedd dyfalu y gallai’r etholaeth honno ac etholaeth gyfagos Delyn gael ei chipio ganddyn nhw yn etholiad y Cynulliad hefyd. Collodd y Torïaid rhywfaint o dir ers hynny, ond wrth i Lafur hefyd golli tir, mae’n debyg fod unrhyw beth yn debygol.

Mi fydd Plaid Cymru’n dal gafael gyda mwyafrifoedd clir ym Môn ac Arfon, ac mae cipio Aberconwy oddi ar y Torïaid o fewn eu cyrraedd. Byddai Gorllewin Clwyd yn dalcen caletach iddynt, ac mae’n anodd rhagweld y Ceidwadwr Darren Millar yn colli ei sedd, er y gallai ymgeisydd Ukip ddwyn rhai pleidleisiau oddi arno.

I droi at y rhestr, cafodd y Torïaid ddwy sedd, a Phlaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol un yr un yn 2011.

Mae Ukip yn sicr o ennill o leiaf un sedd y tro hwn, ac yn wyneb y gefnogaeth y mae wedi’i chael yn rhai o etholaethau’r gogledd-ddwyrain mae’n ddigon posibl y bydd yn ennill dwy.

Os bydd Plaid Cymru’n ennill Aberconwy, bydd yn dasg hynod o anodd iddi gadw ei sedd restr. Ar y llaw arall os bydd y Torïaid yn ennill rhagor o etholaethau, mi fydd Plaid Cymru’n sicr o gadw’i sedd.

Y Canolbarth a’r Gorllewin

O fewn y rhanbarth hwn y bydd llawer o’r brwydrau mwyaf diddorol yng Nghymru.

Yn yr etholiad diwethaf, cafodd Plaid Cymru a’r Torïaid dair sedd yr un, Llafur un a’r Democratiaid Rhyddfrydol un.

Mi fydd Plaid Cymru’n dal gafael yn hawdd ar Geredigion a Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a bydd Dafydd Elis-Thomas yn sicr o gadw Dwyfor Meirionnydd.

Mi fydd yn rhaid i Blaid Cymru ennill Llanelli hefyd er mwyn osgoi colli tir yn y rhanbarth, gan eu bod nhw’n annhebygol o gadw’u sedd restr. Ar adeg y mae Llafur yn colli tir byddai disgwyl i Blaid Cymru fod yn ffefrynnau i ennill, er bod llawer iawn yn dibynnu ar ffactorau lleol yma fel ym mhob etholaeth arall.

Mae Plaid Cymru’n gobeithio cipio etholaeth Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro hefyd, ar ôl dod yn agos yma sawl gwaith heb erioed ei hennill.

Bydd y Torïaid yn debygol o ddal gafael ym Mhreseli Penfro a hefyd ym Maldwyn. Os na fydd Kirsty Williams yn llwyddo i ddal gafael ar Frycheiniog a Maesyfed, mi fydd yn ddrwg iawn ar y Democratiaid Rhyddfrydol, gan mai dyma ydi eu gobaith cryfaf o gadw sedd.

O ran y seddau rhestr, cafodd Llafur ddwy, a Phlaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol un yr un yn 2011.

Os bydd Llafur wedi colli ym mhob etholaeth, mae’n weddol sicr o ddal gafael ar ei dwy sedd, ac mae Ukip yn sicr o ennill un. Gall fod yn frwydr agos rhwng dwy neu dair plaid am y sedd arall.

Gorllewin y De

Enillodd Llafur bob un o’r saith sedd yn y rhanbarth hwn y tro diwethaf.

Ar ôl i’r Torïaid gipio Gŵyr yn yr etholiad seneddol y llynedd, mae hon yn sicr am fod yn etholaeth gwerth ei gwylio, er y gall ei hennill yn etholiad y Cynulliad brofi i fod yn dalcen caletach.

Mae Plaid Cymru hefyd yn gyson wedi perfformio’n dda yn etholaeth Castell Nedd er nad yw erioed wedi llwyddo i’w hennill.

Yr etholaeth arall a fydd yn cael sylw yw Pen-y-bont lle mae Carwyn Jones yn sicr o gadw ei sedd er nad yw ymhlith cadarnleoedd cryfaf Llafur.

Y tro diwethaf, enillodd y Torïaid dwy sedd restr a Phlaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol un yr un. Gobaith Plaid Cymru fydd adennill ei hail sedd ar y rhestr, gan mai 2011 oedd yr unig etholiad iddi ennill un sedd yn unig. Byddai i’r Torïaid ennill Gŵyr wneud pethau’n haws iddi, er bod Ukip am wneud seddau rhestr yn fwy o her i bob plaid.

Canol y De

Bydd sawl brwydr ddiddorol yn y rhanbarth hwn lle’r oedd Llafur yn dal pob un o’r wyth etholaeth tan yr etholiad.

Mae o leiaf bump o’r rhain yn cael eu targedu’n galed gan bleidiau eraill. Mae’r Toriaid yn dal etholaethau Gogledd Caerdydd a Bro Morgannwg gyda mwyafrifoedd sylweddol yn San Steffan ac fe fyddai disgwyl iddyn nhw fod â siawns yma. Ar y llaw arall, gallai ffactorau lleol a phleidleisiau personol gadw’r ddwy sedd i Julie Morgan a Jane Hutt.

Mae Canol Caerdydd hefyd yn cael ei thargedu gan y Democratiaid Rhyddfrydol. Er mai nofio yn erbyn y llif y maen nhw, dim ond o drwch blewyn y gwnaethon nhw golli’r tro blaen.

Plaid Cymru sy’n targedu’r ddwy sedd arall.

Rhondda yw ei gobaith mawr lle mae Leanne Wood yn sefyll. A hithau’n byw yn y cwm ac wedi’i geni a’i magu yno, gallai pleidlais bersonol fod yn ddigon i droi’r fantol o’i phlaid yma hyd yn oed os na fydd y Blaid yn gweld cynnydd mawr mewn rhannau eraill o Gymru. Mae’n gwbl bosibl i newidiadau dramatig ddigwydd mewn etholaethau unigol heb i hynny gael ei adlewyrchu mewn arolygon barn cenedlaethol.

Mae eu hymgeisydd yng Ngorllewin Caerdydd, Neil McEvoy, hefyd wedi cael sylw anferthol yn y cyfryngau, a gall ffactorau lleol na fydd a wnelont fawr ddim â chenedlaetholdeb Cymreig na phoblogrwydd cyffredinol Plaid Cymru weithio o’i blaid.

Ar y rhestr, roedd gan y Torïaid ddau, a Phlaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol un yr un.

Gydag o leiaf un sedd yn mynd i Ukip, bydd o leiaf un yn llai i’r pleidiau eraill. Os na fydd Plaid Cymru’n cipio un o’r etholaethau, bydd Leanne Wood yn cael ei hailethol ar frig y rhestr. Mae arweinydd y Ceidwadwr, Andrew R T Davies, er ei fod yntau hefyd ar frig y rhestr, mewn sefyllfa ychydig yn fwy bregus. Petai’r Ceidwadwyr yn cipio dwy etholaeth, byddai’n gwbl bosibl iddo fethu â chael ei ailethol gan nad yw’n ymgeisydd yn y naill na’r llall.

Dwyrain y De

Llafur a enillodd bob un o’r wyth etholaeth ac eithrio un, sef Mynwy, y tro blaen.

Prin yw unrhyw dystiolaeth y bydd pethau’n wahanol y tro hwn, er ei bod yn cynnwys dwy etholaeth, sef Islwyn, a gafodd ei chipio gan Blaid Cymru yn 1999, a Chaerffili, lle mae Plaid Cymru wedi dod yn agos sawl gwaith.

O ran y seddau rhestr, cafodd Plaid Cymru a’r Torïaid ddwy sedd yr un y tro blaen. Gydag Ukip yn sicr o ennill o leiaf un sedd, mae am fod yn anodd iawn i Blaid Cymru ddal gafael ar ddwy sedd. Mae bron yn sicr o ddal gafael ar un yn hawdd, ond i ennill yr ail byddai’n rhaid iddi guro’r Torïaid trwy’r rhanbarth, rhywbeth nad ydi hi wedi llwyddo i’w wneud erbyn 1999.

I gloi

Petai Llafur yn colli pob un o’r etholaethau a grybwyllir uchod, byddai hi’n dal i fod y blaid fwyaf o ddigon, er y byddai mewn sefyllfa bur fregus ac anodd. Byddai hynny yn ei gadael gyda thua 21-22 o seddau, ond byddai angen cyfuniad annhebygol o ffactorau lleol i hynny ddigwydd. Mwy tebygol fyddai iddi ennill tua 25-26 o seddau, a allai ddal fod yn ddigon iddi barhau i lywodraethu oherwydd y rhaniadau rhwng y pleidiau eraill, yn enwedig gyda Phlaid Cymru i beidio â chydweithio â’r Torïaid.

I Blaid Cymru, mae’n anodd gweld yr etholiad hwn yn cynnig cyfle iddi ychwanegu mwy nag un neu ddau ar y mwyaf at ei chyfanswm o seddau. Ar y llaw arall, byddai cipio rhagor o etholaethau yn gam ymlaen iddi hyd yn oed petai hynny ar draul seddau rhestr. Byddai cipio mwy o etholaethau yn rhoi sylfaen gadarnach iddi mewn sawl rhan o Gymru at y dyfodol. Mae union yr un peth yn wir am y Torïaid hefyd.

Y blaid sy’n sicr o weld y cynnydd mwyaf ydi’r un sy’n cychwyn o ddim, sef Ukip. Ond cwestiwn arall wrth gwrs fydd y graddau y bydd ACau’r blaid honno’n gallu cydweithio ymysg ei gilydd fel grŵp heb sôn am gyda phleidiau eraill, yn y Cynulliad nesaf.