Jeremy Corbyn (llun: PA)
Mae’r blaid Lafur yn ‘unedig’ yn ei brwydr yn erbyn gwrth-Iddewiaeth, yn ôl yr arweinydd Jeremy Corbyn.

Wrth annerch rali Gŵyl Fai yn Llundain dywedodd ei fod ef a’i blaid yn gwbl gadarn yn erbyn unrhyw ffurf o hiliaeth.

“Safwn yn unedig fel mudiad Llafur gan gydnabod ein hamrywiaeth ffydd, a’n hamrywiaeth ethnig, yr amrywiaeth hwnnw y daw nerth ohono,” meddai.

Daw ei sylwadau ar ôl dyddiau cythryblus iddo ef a’i blaid, gydag arolwg barn yn awgrymu bod sylwadau ymfflamychol cyn-faer Llundain, Ken Livingstone, yn niweidio rhagolygon Llafur yn yr etholiadau ddydd Iau. Roedd wedi honni bod Hitler o blaid y syniad o wladwriaeth Iddewig cyn “iddo fynd yn wallgof a lladd chwe miliwn o Iddewon”.

Yn dilyn sylwadau Ken Livingstone, cyhoeddodd Jeremy Corbyn adolygiad annibynnol o honiadau o wrth-Iddewiaeth o fewn y Blaid Lafur ac addawodd dynhau rheolau’r blaid.

‘Celwydd’

Yn ôl Diane Abbot, un o gefnogwyr amlycaf Jeremy Corbyn, “celwydd” yw dweud bod problem wrth-Iddewiaeth o fewn Llafur.

“Fe fyddwn i’n flin iawn petai rhai pobl yn taflu cyhuddiadau o wrth-Iddewiaeth fel rhan o anghydfod mewnol o fewn y Blaid Lafur,” meddai.

Un arall sydd wedi ceisio achub cam Jeremy Corbyn yw’r arweinydd undeb Unite, Len McCluskey.

“Ymgais sinicaidd i ddefnyddio gwrth-Iddewiaeth i ddibenion gwleidyddol yw hyn gan y wasg asgell dde gyda chymorth Aelodau Seneddol Llafur,” meddai.