Bethan Gwenllian
Bethan Gwenllïan sy’n dadlau o blaid mwy o amrywiaeth ym Mae Caerdydd…
Yn 2003, Cynulliad Cenedlaethol Cymru oedd y corff etholedig cyntaf yn y byd a lwyddodd i gael cydraddoldeb llwyr o ran rhyw. Ffaith, dw i’n siŵr, sy’n gwneud unrhyw un yn falch o fod yn Gymry.
Ond, mewn adroddiad a gyhoeddwyd dros y penwythnos gan Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol Cymru, mae awgrym y gall nifer yr Aelodau Cynulliad sy’n fenywod ddisgyn yn y Senedd nesaf.
Mae Cymdeithas Ddiwygio Etholiadol Cymru yn rhagweld y bydd nifer y menywod sy’n cael eu hethol rhwng 22 a 28, neu 37% i 45% o’r Senedd (gyda chyfartaledd o 40%). Yn yr etholiad yn 2011, fe etholwyd 25 o fenywod (42% o’r Senedd).
Er mai bychan yw’r newid rhwng 2011 a rhagfynegiad yr etholiad ym mis Mai, mae’n newid go bwysig. Rhwng 2005 a 2007 roedd 52% o wleidyddion y Senedd yn fenywod.
Mae nifer y menywod o fewn gwleidyddiaeth yn cynyddu ar gyfartaledd mewn gwledydd eraill ar draws y byd.
Pam felly ein bod ni yma yng Nghymru yn mynd yn groes i’r duedd? Yn enwedig o gofio mai ein Senedd ni oedd y cyntaf yn y byd i gyrraedd y cydraddoldeb hwnnw?
Cwymp
Yn yr adroddiad, gyda’r teitl ‘Menywod Yn Y Cynulliad Cenedlaethol’, fe gyhoeddwyd dwy ffaith sy’n achosi pryder.
Yn gyntaf, mae’n fwy tebygol bydd menywod yn ymladd dros seddi ymylol yn yr etholiad ar 5 Mai.
Mae 10 o’r 11 sedd ymylol yn cael eu hamddiffyn gan fenywod, tra bod tri chwarter o’r seddi mwy diogel yn cael eu hamddiffyn gan ddynion.
Yn ail, mae 17 o seddi o fewn y Senedd yn rai lle nad oes menyw wedi eu hennill o’r blaen. Yn fwy na hyn, mae’n debygol na fydd 7 o’r 17 seddi hyn yn ethol menyw y tro hwn chwaith.
Fel menyw sy’n astudio gwleidyddiaeth yn y brifysgol, mae diffyg menywod o fewn gwleidyddiaeth yn rhywbeth sy’n anodd i mi ei hanwybyddu.
Yn wir, mae’n rhywbeth sy’n achosi pryder. Wrth edrych ar wleidyddiaeth Prydain a San Steffan, dim ond 29% o Aelodau Seneddol Tŷ’r Cyffredin sy’n fenywod a dim ond 25% yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Mae gwleidyddiaeth Prydain a Chymru wedi’i dominyddu gan ddynion. Gyda dros hanner boblogaeth Prydain yn fenywod, pam bod llai na thraean o Dŷ’r Cyffredin yn ein cynrychioli ni?
Rhywiaeth
Yn fwy na hyn, mae menywod sy’n ceisio cael eu hethol yn wynebu rhagfarn ar sail rhyw. Mewn erthygl i’r Wales Art Review yn 2013, fe ysgrifennodd Bethan Jenkins AC am ragfarn ar sail rhyw o fewn gwleidyddiaeth Cymru.
Ar ôl i’r Western Mail ei henwi’n un o “fenywod fwyaf rhywiol Cymru” fe ddywedodd AC Plaid Cymru: “Mewn nifer o erthyglau papur newydd, mi fydd yr is-deitl yn cyfeirio ata’i fel ‘un o fenywod fwyaf rhywiol Cymru’ yn lle nodi fy ymgyrchoedd gwleidyddol pwysig.”
Mewn cyfweliad gyda The Times ym mis Ionawr, fe ddywedodd Leanne Wood ei bod hi hefyd yn wynebu rhywiaeth. I Leanne Wood, mae gweld menywod yn rhan o’r sffêr wleidyddol yn creu’r argraff bod gwleidyddiaeth yn le saff i fenywod hefyd.
Ond yn 2011, bu ymchwiliad i ymddygiad dau o ymgeiswyr y Blaid Geidwadol i’r Cynulliad ar ôl iddynt ledaenu jôcs rhywiaethol ar eu tudalennau Facebook.
Ysbrydoliaeth
Efallai nad yw’r diffyg menywod o fewn ein gwleidyddiaeth yn cael ei weld fel problem. Ni fel etholwyr sy’n pleidleisio er mwyn ethol ein ACau, felly gallwn ddadlau bod nifer y menywod yn ein Cynulliad yn adlewyrchu’r ffaith ein bod ni’n pleidleisio dros unigolyn neu dros blaid, ac nid dros ryw.
Ond, gyda mwy a mwy o bobol o’r farn fod gwleidyddion ‘i gyd yr un fath’, efallai mai amrywiaeth yw’r peth sydd ei angen.
Mae ethol pobl o bob cefndir yn sicrhau bod y boblogaeth gyfan wedi’i gynrychioli yn wleidyddol.
Ni allwn wadu bod ethol gwleidyddion o amryw o gefndiroedd, dosbarthiadau cymdeithasol, hiliau, tuedd rywiol a rhyw yn galluogi i ystod eang o brofiadau gael eu trafod o fewn ein sffêr wleidyddol, rhywbeth sy’n gallu cryfhau democratiaeth ein gwlad.
Rwy’n gobeithio nad yw nifer y menywod etholedig yn disgyn i 37% o’r Senedd gyfan ar ôl mis Mai.
Mae’n rhaid i fenywod fod yn rhan o wleidyddiaeth er mwyn sicrhau cynrychiolaeth deg o’r boblogaeth, a hefyd er mwyn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o ferched a dangos bod gwleidyddiaeth yn sffêr sy’n agored iddyn nhw hefyd.
Mae Bethan Gwenllïan yn astudio Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.