Grug Muse
Yng nghanol addewidion etholiadau’r Cynulliad, Grug Muse sy’n gofyn pwy fydd yn rhoi sylw i’r teithwyr…

Mae gen i ddatguddiad mawr i’w rannu efo chi bobol. Falle fod rhai ohonoch chi hefyd wedi sylwi ar hyn yn barod. Falle ddim.

Y gwir amdani yw bod Cymru, ia, ein Cymru ni, mewn termau daearyddol, yn wlad eithaf bach. Pitw, a dweud y gwir. Arwynebedd o ryw 8,023mi², pellter o ryw 195 milltir rhwng Amlwch a Chaerdydd. Ac mae ’na fanteision i hynny.

‘Dydan ni ddim yn gorfod ffysian efo rhyw amrywion barthau amser fel Tsieina a’r Amerig. Mae canolbwynt daearyddol y wlad yn bellter rhesymol oddi wrth bawb.

Does ‘na neb byth yn bell iawn o lan y môr, ac mae pobman yn ddigon agos, os ydach chi’n digwydd bod yn fran neu’n medru hedfan yn yr un dull a honno.

Ystyriwch wledydd mawr y byd: yr UDA, India, Tsieina, a’r drafferth ydi ei maint nhw pan mae hi’n dod i lywodraethu. Tydi Cymru fach ddim yn gorfod delio efo dim o’r problemau hynny.

Felly, i drio ei gwneud hi’n fwy teg ar bawb mae’r illuminati, neu dduw, neu bwy bynnag sydd efo’i llaw ar y llyw, wedi penderfynu melltithio Cymru efo’r seilwaith trafnidiaeth fwya’ cyntefig gellid ei ddychmygu gan ddyn neu dduwdod.

Ar drugaredd Mansel

Go iawn rŵan, pwy oedd y bobol ddwytha i fuddsoddi’n iawn yn seilwaith drafnidiaeth Cymru? Y Rhufeiniaid? Pobol trên bach yr Wyddfa? Dw i’n cochi wrth ddychmygu trio egluro wrth Almaenwyr autobahnog fod angen mynd trwy Loegr er mwyn teithio ar drên o ogledd i dde Cymru.

Ystyriwch am eiliad ein cyfeillion cyfandirol: Gellir teithio’r 195 milltir o Borto i Lisboa mewn tair awr. 203 milltir o Brague i Fratislava mewn tair a hanner. O Vienna i Fudapest mi wnewch chi 150 milltir mewn llai na dwy awr a hanner.

Ar ddiwrnod sych yng Nghymru, gan ddibynnu ar amserlen Mansel Davies a themprament y da byw lleol ar y pryd, mi wnewch chi’r 170 milltir rhwng Caernarfon a Chaerdydd mewn pedair awr – pump os ydach chi gystal gyrrwr a fi.

A hynny ddim ond mewn car. Mewn trên, mi fydd rhaid i chi fynd i Fangor, i dreulio pedair awr a mwy yn mwynhau moethusrwydd anghymharol yr hyn a elwir yn Arriva Trains Wales.

Duw a ŵyr a oes ‘na neb wedi mentro’r ffasiwn siwrne mewn bws. Bendith ar eu heneidiau truan.

Amlygu gwahaniaethau

A dim ond cwynion gog ydi’r rheina. Alla i ond dychmygu mai estyniad o’r profiad “teithio mewn amser” canolfan Doctor Who y Bae ydi llinellau’r cymoedd. Ac os hedfanwch chi i mewn i faes awyr Caerdydd mi fydd eisiau siartro awyren arnoch chi i gael gadael y terminal.

Does ‘na neb yn gwadu nad ydi isadeiledd trafnidiaeth yn broblem hyd a lled y wlad. O drafnidiaeth gyhoeddus i stad y lonydd.

Mae’n gwneud Cymru yn anoddach i’w llywodraethu yn llwyddiannus, yn amlygu’r gwahaniaethau a thensiynau rhwng buddiannau’r de a’r gogledd, yn atal datblygu cysylltiadau economaidd a chymdeithasol rhwng y coridor o drefi Cymraeg y gorllewin, a, wel, jest yn gwneud i ni edrych yn ddrwg.

Blaenoriaethau

Dydi’r blaid Lafur ddim yn ystyried trafnidiaeth fel un o brif bwyntiau polisi’r etholiad yma. Er na chyhoeddir ei maniffesto tan wythnos nesa, toes ‘na ddim sôn am drafnidiaeth yn ‘chwe addewid allweddol’ y blaid ar gyfer yr etholiad.

Gyda chynlluniau trydaneiddio’r cymoedd yn llusgo, cecru am yr M4 yn rhygnu ‘mlaen, ac enw mawr Llafur ar drafnidiaeth, Edwina Hart, yn gadael y Senedd eleni, mae’r blaid yn edrych yn reit wan yn nhermau trafnidiaeth – ac mae hynny cyn hyd yn oed sôn am faes awyr Caerdydd.

Mae’r hynny o gynllun sydd gan Lafur o ran seilwaith trafnidiaeth yn canolbwyntio ar un rhanbarth ac yn methu’n llwyr â gweld Cymru fel system integredig, lle mae gwahanol ranbarthau o fewn y wlad yn dibynnu ar ei gilydd er mwyn ffynnu.

Mae Llafur wedi cael cuddio am flynyddoedd y tu ôl i niwl datganoli a hynny ym maes seilwaith trafnidiaeth cymaint ag unrhyw faes arall. Ac i fod yn deg, mae ’na ‘chydig o amwysedd.

Oes ganddi rym?

Er i Edwina Hart yn 2015 ariannu ymchwil dichonoldeb i ail-sefydlu cysylltiad rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin, fyddai drwy hynny yn cysylltu Pwllheli a Phorthmadog efo Aber a Chaerfyrddin, tydi ariannu seilwaith rheilffyrdd ddim yn fater sydd wedi ei ddatganoli i’r Cynulliad.

Er hynny, y mae grymoedd tros lonydd, porthladdoedd a meysydd awyr yn feysydd sydd wedi ei datganoli.

Does dim dwywaith fod y setliad datganoli a manylion cyllido fformiwla Barnett yn dal y Cynulliad yn ôl mewn rhai ffyrdd wrth ddatblygu seilwaith trafnidiaeth, ond mae ffiasgo yr M4 yn dangos yn glir mai diffyg cynllun a gweledigaeth glir yw eu prif broblem.

Ceffyl da ewyllys, medden nhw, a debyg y byddai ceffyl da yn hen ddigon abal i dorri llwybr i Lafur trwy niwloedd dyrys datganoli.

Cyfyngu ar gyfleoedd

Er mwyn i economi Cymru ffynnu mae’n hanfodol fod cymunedau wedi’u cysylltu a bod cludo nwyddau a phobol yn broses rwydd, gyflym a rhad.

Mae hynny’n cynnwys cludiant o fewn Cymru, a rhwng Cymru a gwledydd eraill. Mae problemau trafnidiaeth yn effeithio ar Gymru ar lefelau macro a meicro.

Mae costau ac annibynadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus mewn mannau gwledig, ynghyd â chostau trafnidiaeth breifat, yn atal pobol rhag cael mynediad at wasanaethau cyhoeddus ac yn cyfyngu ar gyfleoedd gwaith.

Mae’r gallu sylfaenol hwnnw i symud yn ganolog i’r ffordd yr ydan ni’n byw ein bywyd, ac i’n gallu ni i dyfu a datblygu. Ar lefel facro, er gwaethaf yr oes ryngweithiol, mae masnach a chynhyrchu dal yn ddibynnol ar lwybrau trafnidiaeth effeithlon a rhyng-gysylltiedig er mwy ffynnu.

Gore po gyntaf y gwnaiff Llafur sylweddoli fod angen sylfaen gadarn o seilwaith drafnidiaeth fodern ac effeithlon cyn y gallwn ni freuddwydio am economi a chymdeithas ffyniannus.

Ac i wneud hynny mae angen edrych ar Gymru fel system integredig ac nid fel rhyw gêm Operation.

Wrth gwrs, nid Llafur yw’r unig blaid yn y Cynulliad, ac yn sicr nid eu syniadau nhw ydi’r unig syniadau ar gael ynglŷn â thrafnidiaeth.

Mae’n bryd i ni gael trafodaeth go iawn ynglŷn â seilwaith drafnidiaeth Cymru. Dewis Llafur ydi ai nhw, neu blaid arall fydd yn arwain y drafodaeth honno.

Ein dewis ni ydi hi faint o lais fydd ganddyn nhw. Mae Cymru’n wlad fach llawn pellteroedd maith. Gawn ni o leiaf drio gwneud y gorau o’n manteision cynhenid?

Mae Grug Muse yn gyn-fyfyrwraig Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Nottingham a bellach yn byw ym Massachusetts.