Rachel Banner o True Wales sy’n dadlau dros bleidlais ‘Na’ yn y refferendwm ar fwy o berau i’r Cynulliad…
Os yw’r ymgyrch ‘Ie’ yn bwriadu dadlau y bydd pwerau newydd yn gwella ansawdd bywyd yng Nghymru, gan roi enghreifftiau penodol, yna mae’r un mor rhesymol i’r ymgyrch ‘Na’ edrych yn fanwl ar sut mae Llywodraeth y Cynulliad wedi defnyddio ei phwerau hyd yma yn y cyswllt hwnnw. Does dim byd yn fwy sylfaenol i’r economi na llunio ansawdd bywyd yng Nghymru.
Gall ymgyrchwyr dros bleidlais ‘Ie’ gyflwyno gwahanol ddadleuon yn amlinellu llwyddiannau’r degawd cyntaf ers datganoli ond ni allant wneud hynny yn achos yr economi.
Pe bai hyn yn ddim ond arf ymgyrchu gan yr ymgyrch ‘Na’ gallai darllenwyr Golwg ddiystyru’r feirniadaeth, ond mae llawer o economegwyr blaenllaw yng Nghymru wedi dweud nad yw datganoli wedi bod o fawr ddim lles i economi Cymru.
Mae’r Athro Kevin Morgan wedi cyfeirio at fethiant y Cynulliad dros y degawd diwethaf i osod sylfeini economi fodern 21ain ganrif – er gwaethaf cyllid uwch na erioed d gan y Trysorlys a’r UE – fel ‘cyfrinach fach fudr datganoli’.
Mae’r Athro Brian Morgan, Cyfarwyddwr y Ganolfan Arweinyddiaeth a Menter Greadigol (UWIC), wedi gofyn cwestiwn teg, sef paham mae “cyn lleied i’w ddangos o ran perfformiad economaidd ar ôl degawd o Lywodraeth y Cynulliad, ac ymhell dros £100 biliwn o wariant cyhoeddus”.
Mae’r record yn amlwg. Mae GVA Cymru – sef mesuriad o werth nwyddau a gwasanaethau a gynhyrchwyd mewn ardal fesul – wedi gostwng o’i gymharu â gweddill y Deyrnas Unedig dros y degawd diwethaf, o 77% o gyfartaledd y Deyrnas Unedig i 75%. Mewn geiriau eraill, mae’r GVA yng Nghymru’n is nag yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal ag yn holl ranbarthau Lloegr. Mae’n 25% yn is na chyfartaledd y Deyrnas Unedig a bron i 50% yn is na Llundain.
Mae Mynegai dylanwadol Cystadleuaeth y Deyrnas Unedig (UKCI) ar gyfer 2010 yn dangos, o 12 rhanbarth a chenedl y Deyrnas Unedig, mai Cymru yw’r lleiaf cystadleuol. Mae’r holl ardaloedd lleiaf cystadleuol ar draws Prydain yng Nghymru.
Mae un o awduron yr adroddiad, yr Athro Robert Huggins o’r Ganolfan Cystadleuaeth Ryngwladol yn Athro Prifysgol Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith, er bod gogledd Lloegr yn gwneud “cryn gynnydd wrth wella ei gallu i gystadlu bod Cymru’n mynd yn fwyfwy ar wahân”.
Mae’n ychwanegu’n ddamniol bod “fawr ddim tystiolaeth bod datganoli a sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn cyfrannu at well allu i gystadlu” ac “mewn gwirionedd, mai’r gwrthwyneb sy’n wir i raddau helaeth”.
Wnaiff hi mo’r tro i Lywodraeth Cymru’n Un ddarganfod yn sydyn ddiffyg £300 miliwn Barnett a ddatgelwyd gan adroddiad Holtham. Mae’n defnyddio deilen ffigys Holtham i gelu rhag pobl Cymru’r gwirionedd sylfaenol bod gwariant uwch nag erioed ar economi Cymru wedi ein gadael, ddegawd yn ddiweddarach, yn dlotach o’n cymharu â gweddill y Deyrnas Uned.
Wrth gwrs rhaid i ni gywiro’r diffyg hwnnw – nid yw Llywodraeth San Steffan hyd yn oed wedi ymrwymo i roi “llawr” o dan fformiwla Barnett – ond nid yw’n cynnig ateb sylfaenol i wendid sylfaenol ein strwythur economaidd.
Bydd llawer o ddarllenwyr Golwg mae’n siŵr yn cefnogi’n gryf gynigion Holtham ar drethi a hefyd argymhellion Plaid Cymru ynghylch ennill pwerau macro-economaidd yn gyson. Nid oes diben i’r Blaid fod yn swil o leisio barn am gynigion treth Holtham, tra ar yr un pryd yn gweiddi’n groch am ddiffyg cyllid Barnett i Gymru.
Mae anghysondeb sylfaenol ym mholisi economaidd y Blaid. A fydd hi bob amser yn begera wrth ddrws Trysorlys y Deyrnas Unedig, neu a fydd yn ddigon onest i ddatgan yn eglur ei huchelgais ar gyfer polisi economaidd cenedlaethol?
I’r rhai sy’n dweud nad oes a wnelo’r economi ddim byd â’r refferendwm hoffwn i wneud dau bwynt i gloi. Mae cyswllt uniongyrchol rhwng y refferendwm ac Adroddiad Holtham; mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i adolygiad tebyg i Calman o gyllid Cymru os bydd pleidlais ‘Ie’ ar Fawrth 3ydd.
Nid yw’r adolygiad hwnnw’n ymwneud yn unig â’r diffyg cyllidol a ddatgelwyd gan Gomisiwn Holtham. Mae a wnelo hefyd â chyflwyno pwerau treth incwm, fel y mae Holtham wedi argymell. Ni all Llywodraeth gyfrifol yng Nghymru gydio mewn un rhan o adroddiad mor bwysig â hyn, ond aros yn fud am y rhan arall.
Yn olaf, gadewch i ni roi sylw i eiriau Adam Price yn ei ysgrif ddisglair ‘Reinventing Radical Wales’ lle ysgrifennodd: ‘The transformation of the economy is, of course, the central question in Welsh life.’
Nid yw llywodraeth â record economaidd druenus fel y Cynulliad dros y degawd diwethaf yn haeddu’r bleidlais o hyder fyddai ymhlyg mewn pleidlais ‘Ie’.