Efa Lois
Efa Lois sy’n holi beth mwy gall Cymru ei wneud er mwyn gwneud tai’n fwy cynaliadwy…
Dim ond darllen y rhan fwyaf o bapurau newydd sydd angen i chi ei wneud er mwyn clywed fod Prydain mewn ‘argyfwng tai’.
Mae’n sefyllfa ddifrifol, gyda’r Federation of Master Builders yn honni bod angen i 14,000 o dai newydd gael eu hadeiladu bob blwyddyn yng Nghymru am y pum mlynedd nesaf i ddiwallu’r galw presennol am gartrefi.
Mae hyn yn ddigon i godi ofn ar unrhyw un, ond yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru o’i chynllun ‘Troi Tai’n Gartrefi’, ceir awgrym bod tua 23,000 o adeiladau gwag yng Nghymru.
Pam, felly, fod cyn lleied o gymhelliant i bobl ddefnyddio’r tai gwag hyn?
Addewidion
Mi fyddai defnyddio’r tai gwag hyn yn fodd o fynd i’r afael â’r diffyg tai, yn ogystal â bod yn gyfle i sicrhau fod y tai yn colli llai o wres na’r tai presennol, ac felly yn rhatach i’w rhedeg, oherwydd byddai llai o wres yn cael ei golli, ac felly’n well i’r amgylchedd.
Yn 2009 roedd y sector adeiladu yn gyfrifol am tua 43% o allyriadau carbon deuocsid y DU, boed hynny drwy adeiladau oedd yn colli gwres, neu’n ynni oedd yn cael ei ddefnyddio i godi adeiladau newydd.
Pam felly bod maniffestos rhan fwyaf o bleidiau ar gyfer yr etholiad ym mis Mai yn canolbwyntio ar adeiladu tai newydd?
Mae’r Ceidwadwyr Cymreig, Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Y Blaid Werdd a Phlaid Cymru yn honni eu bod nhw am adeiladu miloedd o dai newydd er mwyn atal yr ‘argyfwng tai’ rhag gwaethygu.
Camau pellach?
Mae’r Blaid Lafur eisoes yn rhedeg cynllun ‘Tai i Gartrefi’, sy’n cynnig benthyciadau di-log i bobl sydd am atgyweirio tŷ gwag, ac yna ei rentu allan neu ei werthu.
Mae Plaid Cymru, Y Ceidwadwyr a’r Blaid Werdd yn honni eu bod hwy am wneud yr hyn mae Llafur yn ei wneud ar raddfa ehangach, tra bo’r Democratiaid Rhyddfrydol am addasu’r rhaglen i’w gwneud yn fwy defnyddiadwy.
Pam nad yw adfywio hen dai a chreu tai effeithlon yn mynd law yn llaw â’i gilydd? Byddai addasu’r stoc tai sydd eisoes yn bodoli, boed y rheini yn dai gwag neu’n dai rydym ni’n byw ynddyn nhw, fel eu bod nhw’n colli llai o wres, ac felly’n arbed ynni yn syniad hollol wych.
Plaid Cymru yw’r unig blaid sydd wedi cynnig argymhelliad ynglŷn ag ôl-osodiadau (retrofitting) mewn tai hŷn yn eu maniffesto presennol. Mi fyddai hyn yn fuddiol er mwyn cadw biliau ynni’n isel, a thrwy hynny roi hwb i’r economi.
Cynllunio hir dymor
Yn 2006 fe benderfynodd Gordon Brown, y Canghellor ar y pryd, y byddai pob cartref a gafodd ei adeiladu o 2016 ymlaen yn ddi-garbon neu’n garbon niwtral; hynny yw, ni fyddant yn achosi neu’n arwain at ollyngiad net o garbon deuocsid i mewn i’r atmosffer.
Mi fyddai hyn oll yn bosib trwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy ar safle’r tai, a chynllun i alluogi adeiladwyr tai i leihau eu hallyriadau carbon deuocsid drwy blannu coed a fyddai’n amsugno’r un faint o garbon deuocsid a ryddheir gan y tŷ rywle arall.
Erbyn 2019 byddai’r penderfyniad yn effeithio ar bob adeilad newydd yn y DU. Er i’r cynllun hwn gael ei alw yn gynllun 2010-2015, fis Gorffennaf diwethaf penderfynodd y Llywodraeth yn San Steffan i gael gwared arno.
Mae’r syniad o gynnig grantiau i ôl-osod tai yng Nghymru yn sicr yn un sydd werth ei ystyried.
Mi fyddai adeiladu degau o filoedd o dai sy’n colli gwres o fewn y pum mlynedd nesaf yn syniad ffôl, oherwydd mae’n debygol iawn o fewn rhyw ddegawd y bydd y llywodraeth yng Nghymru am i berchnogion y tai hynny, a gweddill tai’r wlad, ymdrechu i sicrhau nad yw’r adeiladau yn colli gwres.
Pam nad oes gan neb y weledigaeth i sylweddoli mai nawr yw’r amser i ladd dau aderyn ag un ergyd?
Mae Efa Lois yn fyfyrwraig Pensaernïaeth ym Mhrifysgol Lerpwl, ac yn wreiddiol o Aberystwyth.