Dylan Iorwerth sydd yn dadansoddi’r ffrae dactegol rhwng Llafur a Phlaid Cymru tros e-smygu
Yn y ffrae tros e-sigarennau, mae’n ymddangos bod Plaid Cymru wedi syrthio i’r bwlch rhwng yr hyn sy’n gwneud sens oddi mewn i waliau’r Cynulliad a’r hyn sy’n gwneud sens y tu allan.
O ymateb yr AC Simon Thomas wrth drydar, mae’n amlwg mai eisio dysgu gwers i Lafur yr oedden nhw wrth bleidleisio yn erbyn y Mesur Iechyd Cyhoeddus.
A phwrpas y wers honno oedd tynnu llinell fach yn y tywod cyn etholiadau’r Cynulliad a’r posibilrwydd y bydd rhaid iddyn nhw drafod cydweithio efo mwyafrif Llafur.
Rhwng muriau adeilad y senedd, roedd hynna’n swnio’n iawn – gan fod y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews, wedi awgrymu eu bod nhw’n fachiad hawdd pan fuodd trafodaethau o’r blaen tros fesur llywodraeth leol.
Er fod Plaid Cymru wedi cynnig cefnogi gweddill y mesur – heb y gwaharddiad ar e-sigarennau mewn mannau cyhoeddus – roedden nhw wedi rhoi cyfle i Lafur sgorio pwyntiau y tu allan i’r siambr.
Mi wnaeth Llafur wthio Plaid Cymru i bleidleisio yn erbyn y cyfan ac wedyn eu cyhuddo nhw o danseilio gweddill y mesur – y rhannau i ddiogelu pobol ifanc mewn parlyrau tatŵ yn ogystal â chefnogi’r mwg di-dân.
Os oedd Plaid Cymru’n meddwl eu bod nhw ar dir diogel yn gwrthwynebu’r gwaharddiad – gan ei fod yn ddadleuol iawn beth bynnag – fe wnaeth Llafur yn siŵr eu bod nhw’n taflu’r babi efo’r dŵr, neu’n hytrach efo’r e-hylif.
Roedd pwynt sylfaenol Plaid Cymru yn un digon teg – ddylai gweinidog llywodraeth ddim cymharu trafodaethau difrifol efo bachu dêt.
Yr awgrym oedd ei fod yn troi gwleidyddiaeth yn gêm. Ond, ar y lefel yma, dyna ydi hi. Ac, ar hyn o bryd beth bynnag, Llafur sydd wedi ennill.