Mae pôl piniwn Vaughan Rodderick wedi ticlo Hefin
Hefin Jones sydd yn bwrw’i olwg unigryw arferol ar ddigwyddiadau’r wythnos a fu/ Hefin Jones rains his usual unique look on the week’s events…
Cyfle cyfartal
Cynildeb gan y Tad John Plessis wrth alw’r symudiad o droi Ysgol Llangennech yn ysgol Gymraeg yn ddim llai nac apartheid, gair a ddefnyddiwyd hefyd gan riant oedd yn methu coelio’r hiliaeth. Ond i brofi nad yw’r tad yn gorymateb, yr elfen fwyaf anhygoel i frodor o Wynedd yw fod 18 ysgol gynradd Saesneg o fewn pum milltir i Langennech mewn sir sydd â mwy o siaradwyr Cymraeg na Gwynedd – Hon fydd ysgol gynradd Gymraeg gyntaf y sir erioed. A edrychodd y Tad ar S4C wythnos yma yw’r cwestiwn mawr.
Rhywbeth i bawb
Ac wrth i S4C blesio’u cynulleidfa graidd wrth orfodi pawb i ddarllen Saesneg mae Tommo yn datgan yn falch fod ‘y gorau o’r siartiau’ ar ei raglen, heb angen nodi mai’r Siartiau Saesneg..sori, Prydeinig…yw hynny wrth gwrs. Sy’n ffordd dda o barhau i golli gwrandawyr oherwydd safon simpil y caneuon, yn ogystal â’r/ yn fwy na’r (dilewch i’ch dymuniad) iaith. Mae’r wledd glustiol hwn wedi bodoli bob prynhawn Llun i Iau ers blynyddoedd wrth gwrs, felly ymateb Radio Cymru i’r gwrandawyr coll yw dyrchafu’r rheswm pam.
Pwy?
Er y diffyg sylw cafodd Dylan Thomas bob diwrnod yn 2015, llwyddodd Llywodraeth Cymru i wario £205,417 ar amddiffyn achosion torri hawlfraint gan Pablo Star Media sy’n berchen ar luniau o’r sgriblwr anghofiedig. Ond nid am un llun cofiwch, rhag ofn i chi ddechrau colli ffydd. Dau lun. Mae Haydn Price, sef Pablo Star Media, wedi datgan ei fod yn meddwl fod y gost yma braidd yn wirion gan y byddai ei dalu wedi bod dipyn yn rhatach. Oddeutu rhwng £200,000 a £205,000 mae rhywun yn tybio, onibai fod Haydn yn wallgof. Mae’r llywodraeth yn ffyddiog y cawn yr arian yn ôl.
Dylanwad Anferth Andrew
Wrth i’r Torïaid rannu’n ffacsiynau o’r rhai nad sydd eisiau dim i’w wneud â Dici Dramorwr, a’r rhai sy’n gweld fod yr Undeb Ewropeaidd yn ei gwneud hi’n haws gangio fyny i fomio a dwyn oddi ar Dici Dramorwyr eraill… daw Andrew RT (arweinydd y Torïaid yn y Cynulliad i chi sy’ ddim yn gwylio S4C gydag isdeitlau’n oriau mân y bore) i ddatgan ei fod yn ‘gwarantu’ na fydd ffermwyr Cymru ar eu colled wedi gadael yr UE. Er fod Dai Cam wedi dweud ddiwrnodau ynghynt na fyddai gwarantu unrhyw beth o’r fath yn bosib.
Bara Blin
“These EU toasters” damiodd David Coburn, UKIP “They’ve turned them all down and that’s why you can’t get decent toast” twit-floeddiodd, er nad ydyn nhw wedi gwneud y fath beth. Roedd The Daily Express yn poeni am hyn yn 2014, ond dal i bendroni ar ddeddfu ar beiriannau cyffelyb sy’n gwastraffu egni mae’r Undeb Ewropeaidd. Felly nid bai Brwsel oedd ei dost llipa.
I’n Gwaredu
Mae gobaith mawr y ganrif UKIP ar gyfer mis Mai, Neil Hamilton, wedi hoelio’r gêm bolitics ’ma. ‘Hiraeth’, winciodd, ‘is drawing me ineluctably (anochel – rhag ofn nad yw S4C wedi ei gyfieithu eto) back to my homeland’, a phur debyg y caiff S4C ei isdeitlo wedi’n hetholiadau. Ac os cofir, daeth gyrfa gwleidyddol y Cymro glân gloyw i ben wedi’r honiadau iddo derbyn arian gan Mohammed al-Fayed i ofyn cwestiynau penodol yn San Steffan. O lwcus wlad yr ydym.
Plismona pybyr
Rhedeg yn wyllt i gyfeiriad y traffic ar y briffordd 3-heol wnaeth Lexi y ci yn Massachussets gan achosi dipyn o anhrefn wrth i fodurwyr ei osgoi, a’r hyn wnaeth yr heddlu oedd cau’r lôn a denu’r anifail ofnus i’w car hefo bisged, a hynny’n ganol y prynhawn, nid am dri y bore. Nid fod unrhyw ddigwyddiad diweddar i’w gymharu’n unlle agos at adref. Plentynaidd fyddai adio fod y ci’n lwcus ddwywaith gan ei fod yn un du.
Arwynebedd croen
‘This lifft is not for cleaners’ oedd sylw un cyd-Aelod Seneddol wrth i’r aelod dros Ganol Brent, Dawn Butler, ddod i fewn. Mae Dawn yn berson croen tywyll, gwelwch. Ac ar bwnc tebyg, roedd un wag wedi ei blesio cymaint efo’r actorion yn y ddrama Chwalfa (wedi ei leoli’n y chwarel, gwelwch) adroddodd y bydden nhw yn sicr wedi eu henwebu am Oscar pe na bai eu gwynebau’n ddu.
Pleidlais piwis
Wedi i Vaughan Roderick ddatgan nad oedd Iwerddon wedi elwa bron ddim o annibynniaeth, bu i un nodi ei fod yn ymgorffori ‘hurtni unoliaethol y Bîb’. Ac i fethu, am unwaith, yn ei sgiliau darogan gosododd Vaughan bôl piniwn a holi ei ddilynwyr os oedden nhw yn cytuno efo’r fath gyhuddiad. Yn anffodus iddo yntau, roedd 53% yn llwyr gytuno. Swing i’r dde ynteu’r chwith?
Trip i Toby
Er mwyn achub y Deyrnas Unedig, medd Toby Perkis AS, ‘A small but significant step’ fyddai gorfodi Cymru a’r Alban a Gogledd Iwerddon i chwarae ‘God Save the Quee’ yn ogystal â’u hanthemau bach lleol eu hunain, yn amlwg heb gael y pleser o fod yn un o’u gêmau Gogledd Iwerddon. Efallai dylai ddod i Gaerdydd ddiwedd y mis am wefreiddiad.
Pa wahaniaeth?
‘Grand Slam there for England’s taking as Wales defeat France’ ebe pennawd The Times, nid yn unig yn ymddangos i gamddeall ystyr Grand Slam yn llwyr ond llwyddo hefyd i drin Cymru fel petai’n 2001 ac nid fel tîm sydd newydd eu taflu o’u Cwpan y Byd eu hunain.