Y Donald
Mae gwrthwynebwyr Donald Trump yn y ras i fod yn ymgeisydd arlywyddol y Gweriniaethwyr, wedi dweud y byddan nhw’n cefnogi’r biliwnydd dadleuol os yw’n ennill.
Daeth eu haddewidion wedi i gyfres o Weriniaethwyr amlwg ymosod ar Danold Trump.
Mae’r dyn fu’n herio Barack Obama adeg yr etholiad diwethaf yn 2012 wedi troi ar Trump.
Yn ôl Mitt Romney mae Danolad Trump yn “phoney” sy’n trin pobol America yn dwp.
Nid yw’n arferiad i gyn-ymgeiswyr Gweriniaethol droi ar ddarpar ymgeisydd fel hyn, ac mae’n arwydd o banig wrth i Donald Trump edrych yn fwyfwy tebygol o ennill y ras.
Ond mae ei wrthwynebwyr – Ted Cruz, Marco Rubio a John Kasich – wedi dweud y byddan nhw’n ei gefnogi os yw’n ennill yr hawl i fod yn ymgeisydd arlywyddol y Gweriniaethwyr.