Stanley Kubrick
Fe fydd cynhyrchydd ffilmiau sydd wedi’i ddisgrifio fel ‘right hand man’ y cyfarwyddwr ffilm byd-enwog Stanley Kubrick, yn dod i Gymru’r wythnos nesaf i siarad â phobol Bangor.
Mae disgwyl i Jan Harlan, un o gynhyrchwyr ffilm gorau’r byd yn ôl rhai, fod yn rhan o sesiwn holi ac ateb yng nghanolfan Pontio ddydd Iau nesaf.
Bydd yn cael ei holi yn dilyn dangosiad o un o’i ffilmiau, Ida, a enillodd Oscar.
Mae hefyd yn enwog am gynhyrchu ffilmiau enwog gafodd eu cyfarwyddo gan Stanley Kubrick megis Full Metal Jacket, The Shining, Eyes Wide Shut a Barry Lyndon.
Hefyd bu’n cyd-gynhyrchu’r ffilm Al gyda Steven Spielberg.
Cydlynydd Sinema Pontio, Emyr Glyn Williams, fydd yn holi Jan Harlan.
Bydd yn trafod ei yrfa â Stanley Kubrick a’i ddiddordeb penodol yn y ffordd mae cerddoriaeth yn chwarae rhan bwysig mewn sinema.
“Mae Jan yn un o’r unigolion prin hynny sydd wir yn ‘nabod a deall dyn a oedd i lawer, y cyfarwyddwr ffilm gorau erioed, yn sicr yn gydradd gyda Hitchcock ac Orson Welles drwy gynhyrchu ffilmiau fel 2001:A Space Odyssey, A Clockwork Orange a Dr Strangelove,” meddai Emyr Glyn Williams sy’n un o sylfaenwyr Cwmni Recordiau Ankst ac wedi cyfarwyddo ffilm o’r enw Y Lleill wnaeth ennill BAFTA Cymru am Y Ffilm Orau yn 2005.
Un o ddarlithwyr ffilm Prifysgol Bangor sydd wedi denu’r cynhyrchydd ffilmiau enwog i Fangor.
Daeth Nathan Abrams i adnabod Jan Harlan tra’n gweithio ar lyfr am Stanley Kubrick.
Dangos Ida – adlais o ddiddordebau Kubrick
Bydd y gynulleidfa nos Iau yn cael gweld dangosiad o Ida.
Enillodd Oscar y llynedd am y Ffilm Orau Mewn Iaith Dramor.
Mae’r ffilm wedi’i selio ar yr Holocost a bywyd Comiwnyddol ar ôl y rhyfel yng Ngwlad Pwyl, ac yn dilyn hanes merch ifanc sy’n cael gwybod rhagor am farwolaeth ei rhieni Iddewig.
Mae Jan Harlan wedi dewis dangos y ffilm gan ei bod, meddai, yn “adleisio diddordebau mawr Kubrick yn y cyfnod a’r profiad Iddewig yn yr ugeinfed ganrif”.
Yn ôl Emyr Glyn Williams, mae’n ffilm sy’n sicr “werth ei gweld ar y sgrin fawr”, cyn clywed gan y cynhyrchydd ei hun, “sydd wedi cyd-gerdded ag un o gewri artistig pwysicaf hanner canrif diwethaf y sinema fodern,” yn y sesiwn holi ac ateb.
Bydd y ffilm yn cael ei dangos am 8:15 yr hwyr yn sinema Pontio, gyda’r sesiwn holi i ddilyn am 9:45.