I nodi Diwrnod y Llyfr, fe gyhoeddwyd bod miloedd o blant ac oedolion ledled y Deyrnas Unedig ac Iwerddon wedi llwyddo i dorri record byd.

Fe wnaeth 62 o ysgolion, llyfrgelloedd, siopau llyfrau a chwmnïau cyhoeddi gymryd rhan, gan lwyddo i gael 6,388 o bobol i fod yn rhan o’r nifer fwyaf o bobol mewn cwisiau llyfrau ar yr un pryd.

Cafodd Cwis Llawn Llyfrau Diwrnod y Llyfr ei gynnal rhwng 2 a 3 o’r gloch ddydd Llun diwethaf fel bod modd i Guinness World Records asesu’r dystiolaeth a’i chyhoeddi heddiw.

Cafodd y cwis ei deilwra ar gyfer Cyfnodau Allweddol 1, 2 a 3, ac yn cynnwys pytiau fideo gan awduron gwadd, yn cynnwys Charlie Higson, Cressida Cowell, Malorie Blackman, Francesca Simon a Julian Clary.

‘Plant yn gyffrous am ddarllen’

Mae Diwrnod y Llyfr bellach yn 19 oed, a dyma’r ymgyrch mwyaf i godi ymwybyddiaeth plant o ddarllen, sy’n cael ei nodi mewn dros 100 o wledydd.

Ym Mhrydain ac Iwerddon, mae llyfrau swyddogol y diwrnod yn cael eu gwerthu am £1, ac yn 2015, cafodd 900,000 o gopïau eu gwerthu, oedd yn gynnydd o 7.5% ers 2014.

“Mae e bob amser yn brofiad gwych i wylio Diwrnod y Llyfr yn gwneud i blant deimlo’n gyffrous am ddarllen er mwyn pleser, ond eleni roedd disgyblion wrth eu boddau’n cael cyfle i wneud rhywbeth hanesyddol,” meddai Sarah Watts, athrawes yn Ysgol Gynradd Treforys, Abertawe.

“Rwy’n sicr fod hwn yn rhywbeth y bydd pawb a gymerodd ran yn ei gofio am byth.”

Sialens #hunlyfr

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi bod yn cynnal ei ymgyrch #hunlyfr eto eleni, gan annog plant ac oedolion Cymru i dynnu hunlun yn eu dangos yn darllen neu’n dal llyfr, a’i lwytho ar ffrwd Twitter y Cyngor, @DYLLCymruWBDWales.

“Wrth greu casgliad helaeth o hunluniau  #hunlyfr, gallwn ddangos i’r byd bod Cymry o bob oed am ddathlu darllen, a’u bod wrth eu bodd  â llyfrau o bob math,” meddai’r Cyngor Llyfrau.

Os nad oes cyfrif Twitter gennych, gallwch anfon eich llun at angharad.tomos@llyfrau.cymru.