Richard Harrington yn Y Gwyll
Mae Y Gwyll, Y Byd ar Bedwar a rhaglenni Radio Cymru ymysg 34 o enwebiadau sy’n dod o Gymru yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd eleni.

Mae’r Ŵyl yn ddigwyddiad blynyddol sy’n hyrwyddo ieithoedd a diwylliannau’r gwledydd a rhanbarthau Celtaidd yn y cyfryngau ac mae’r gwobrau yn gwobrwyo’r gorau mewn cynyrchiadau teledu, ffilm, radio a chyfryngau digidol.

Enwebiadau

Mae’r enwebiadau o Gymru eleni yn cynnwys 7 i S4C gan gynnwys un i Y Gwyll am y gyfres ddrama orau, #Fi am y rhaglen blant orau, Y Byd ar Bedwar: Y felan a fi am y rhaglen materion cyfoes orau a Nadolig Bryn Terfel am y rhaglen adloniant orau.

Mae Radio Cymru hefyd wedi gwneud yn rhagorol gyda 9 o enwebiadau gan gynnwys un am yr orsaf radio orau.

Mae rhaglenni radio a theledu Saesneg BBC Cymru hefyd wedi eu henwebu am wobrau.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal eleni yn Dungarvan, Iwerddon, rhwng 20 a 22 Ebrill.

Mae rhestr lawn o’r enwebiadau i’w gweld yma: http://www.celticmediafestival.co.uk/nominees