Super Furry Animals
Mae Gŵyl Rhif 6, sydd yn dod yn ôl i Bortmeirion eleni am y pumed tro, wedi cyhoeddi mai’r Super Furry Animals fydd un o brif artistiaid yr ŵyl ym mis Medi.

Yn gynharach eleni, cyhoeddodd y trefnwyr y bydd Noel Gallagher yn perfformio yn yr ŵyl, ynghyd â Hot Chip a Bastille.

Gwenno Saunders yw’r unig artist sy’n perfformio’n Gymraeg sydd wedi’i chyhoeddi, ond dydy’r holl berfformwyr  heb eu cyhoeddi eto.

Cafodd y grŵp roc o Ganada, Broken Social Scene a’r band seicadelic, Temples eu cyhoeddi fel artistiaid hefyd.

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal rhwng 1 a 4 Medi eleni ac mae tocynnau penwythnos i oedolion yn dechrau am £180.