Tîm Maint Cymru yng Nghynhadledd Newid Hinsawdd Paris (llun: Maint Cymru)
Efallai bod y Gynhadledd Newid Hinsawdd ym Mharis drosodd, ond megis dechrau y mae’r gwaith, yn enwedig o safbwynt y coedwigoedd trofannol, yn ôl Lowri Jenkins o Maint Cymru …

Mae bron i ddeufis wedi mynd heibio bellach ers i arweinwyr y byd ddod at ei gilydd i gymeradwyo cytundeb i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Mae hefyd bron i ddeufis ers y bu tîm Maint Cymru ym Mharis yn dweud wrth y byd pam fod coedwigoedd mor bwysig, a beth y mae Cymru’n ei wneud yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Mae coedwigoedd glaw yn hanfodol pan mae’n dod i’r ymateb i newid hinsawdd. Maent yn amsugno bron i un rhan o bump o’r allyriadau CO2 a grëir gan ddyn bob blwyddyn (IPCC 2014).

Mae dinistrio a dirywio’r coedwigoedd trofannol yn rhyddhau’r un faint o allyriadau CO2 â holl drafnidiaeth y byd – ceir, trenau, awyrennau a llongau – gyda’i gilydd.

Diogelu coedwigoedd y byd, a phlannu mwy o goed, yw’r ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon o fynd i’r afael â newid hinsawdd.

‘Coedwigoedd gwerthfawr’

Ers 2010 mae Maint Cymru wedi helpu i gefnogi prosiectau a chymunedau yn Affrica a De America sydd yn dibynnu ar goedwigoedd am ei bywoliaeth. Mae’r prosiectau yma yn anelu at wella safonau byw yn ogystal â gwarchod a rheoli coedwigoedd.


Y fynediad i'r Gynhadledd Newid Hinsawdd ym Mharis (llun: Maint Cymru)
Rydym wrth ein bodd bod cytundeb byd-eang wedi cael i gadarnhau yng nghynhadledd hinsawdd COP21 y Cenhedloedd Unedig ym Mharis. Rydym hyd yn oed yn hapusach bod pwysigrwydd gwirioneddol wedi’i osod ar goedwigoedd, gan lywodraethau a busnesau fel ei gilydd.

Roedd hefyd yn wych bod grwpiau brodorol – amddiffynwyr gorau’r coedwigoedd – wedi cael cydnabyddiaeth am hynny o’r diwedd yn ystod COP21.

Mae’r DU, Norwy a’r Almaen wedi addo ar y cyd i gyfrannu $5 biliwn ar gyfer diogelu’r coedwigoedd, sy’n ardderchog.

Bydd yr arian hwn yn rhoi cefnogaeth wirioneddol i wledydd datblygol ddiogelu eu coedwigoedd gwerthfawr.

Gwireddu addewidion

Ond dim ond y dechrau yw hynny – nawr, rydym yn wynebu’r gwaith caled, gan fod yn rhaid i wledydd wireddu eu haddewidion.

Yn dilyn COP21, mae angen gwirioneddol i’r gymuned ryngwladol weithredu nawr er mwyn cadw’r momentwm a phrofi eu bod o ddifri ynglŷn â’r cytundeb hwn.

Mae angen nawr i’r holl wledydd wneud eu gorau i gyrraedd targedau Datganiad Efrog Newydd ar Goedwigoedd; sef haneru faint o goedwigoedd naturiol a gollir erbyn 2020, a’i atal yn gyfan gwbl erbyn 2030.

Rydym yn falch bod cytundeb wedi’i wneud i sicrhau nad yw’r cynhesu yn fwy na 2°C, ac yn falch bod gwledydd yn mynd i wthio i’w ostwng ymhellach i 1.5°C. Rhaid cyflawni’r targedau hyn i osgoi newidiadau enfawr i hinsawdd y Ddaear.

Uganda


Bachgen yn Mbale, Uganda, gydag un o'r coed fydd yn cael eu plannu (llun: Maint Cymru)
Un o’r gwledydd sydd mewn perygl o ddioddef effeithiau newid hinsawdd yw Uganda. Mae’r ardal eisoes wedi dioddef sychderau difrifol a stormydd cesair trwm yn ystod y blynyddoedd diweddar, ac mae hyn wedi effeithio ar eu cynaeafau.

Byddai cynnydd mewn tymheredd, cynnydd yn nwysedd ac amlder glawogydd, llifogydd, tonnau gwres a stormydd oll yn cael effaith drychinebus ar y wlad.

Mae ardal Mynydd Elgon yn Uganda wedi cael ei rheibio gan ddatgoedwigo ac ehangu amaethyddol, gan arwain at dirlithriadau marwol.

Mae Maint Cymru yn cefnogi gwaith Mbale CAP i blannu 10 miliwn o goed, a fydd yn eu helpu i wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd.

Plannwyd dros ddwy filiwn o goed eisoes, ac mae sefydlogrwydd y pridd yn cael ei adfer diolch i’r coed hyn – dylai hyn helpu i atal tirlithriadau peryglus.


Tirlithriad yn Mbale, Uganda yn 2012 (llun: Maint Cymru)
Dros y bum mlynedd nesaf mae Maint Cymru yn bwriadu dyblu ei effaith gan helpu i ddiogelu ardal o goedwig law ddwywaith ‘Maint Cymru’.

Rydym yn awyddus i chwarae’n rhan yn yr ymdrech fyd-eang i ddiogelu’r coedwigoedd glaw sydd ar ôl yn y byd – nid trwy eu cloi i ffwrdd, ond drwy eu galluogi i gael eu defnyddio mewn modd cynaliadwy gan y cymunedau sydd wedi dibynnu arnynt am genedlaethau.

Rydym yn gobeithio y bydd gwledydd eraill yn dilyn ein hesiampl.

Mae Lowri Jenkins yn Rheolwr Ymgyrchoedd ar Maint Cymru, menter unigryw Cymraeg i helpu i gynnal a gwarchod ardal o goedwig law maint Cymru fel rhan o’r ymateb cenedlaethol i newid hinsawdd. Mae’r elusen o Gaerdydd yn cefnogi coedwigoedd trofannol a’r cymunedau sy’n byw ynddynt yn Affrica a De America.

Cyrhaeddodd Maint Cymru ei tharged cychwynnol o godi £2miliwn a diogelu ardal o goedwig drofannol maint Cymru ym mis Mawrth 2013, ac mae wedi parhau i weithio gydag ysgolion, cyflogwyr, unigolion a chymunedau Cymru i gynnal y coedwigoedd hyn ac i ddiogelu hyd yn oed mwy.