Ymhen pythefnos bydd aelodau’r SNP wedi dewis arweinydd a phrif weinidog newydd i’r Alban. Colofnydd gwleidyddol golwg360 sy’n gofyn a fydd arwain plaid yn profi’n fwy anodd na llywodraethu gwlad i olynydd Nicola Sturgeon…
Mae’n ymddangos yn fwyfwy tebygol mai’r gwir reswm pam fod Nicola Sturgeon yn rhoi’r gorau iddi fel arweinydd yr SNP yw bod y swydd wedi mynd yn amhosibl. Daeth i’r amlwg bellach fod y blaid wedi colli 50,000 o aelodau dros y pedair blynedd ddiwethaf – gostyngiad o 40%.
Does dim amheuaeth y bydd gwleidydd mor hynod o ddawnus a galluog yn gadael bwlch enfawr ar ei hôl – er na ddylai hyn ein dallu i gredu ei bod yn anffaeledig chwaith. Yn eironig, mae’n debygol mai’r dasg o arwain yr SNP, yn hytrach nag bod yn Brif Weinidog yr Alban, fydd yn profi’n drech na’i holynydd.
Mae hyn er gwaethaf diffyg unrhyw arwydd fod un o’r pleidiau eraill yn yr Alban yn peri bygythiad gwirioneddol i’r SNP, er i’w llywodraeth ddod o dan feirniadaeth gyson. Y cwestiwn yw i ba raddau y gall y llwyddiant etholiadol hwn barhau, pe bai’r rhwygiadau o fewn y blaid yn mynd allan o reolaeth yn llwyr.
Sylfaenol
Mae’r problemau mae’r SNP yn eu hwynebu fel plaid yn rhai pur sylfaenol. A’r hyn sydd wrth wraidd eu holl anawsterau mewn gwirionedd yw nad oes digon o boblogaeth yr Alban yn cefnogi annibyniaeth i’w galluogi i gyflawni eu prif nod fel plaid. Ffaith na ellir ei anwybyddu yw bod arolygon ar hyd y blynyddoedd diwethaf yn dangos y gefnogaeth yn aros yn ei hunfan ar ychydig llai na’r hanner ar gyfartaledd.
Mae hyn er gwaethaf refferendwm Brexit a arweiniodd at yr Alban yn cael ei thynnu allan o’r Undeb Ewropeaidd yn groes i ddymuniad trwch ei hetholwyr.
Ar ben hynny, mae llysoedd a llywodraeth y wladwriaeth Brydeinig yn ei gwneud yn glir na fyddai refferendwm yn cael ei ganiatáu prun bynnag.
O’r herwydd, mae llawer o aelodau’r SNP yn colli amynedd a mynd yn fwyfwy anniddig. Unig ddyhead gwleidyddol llawer ohonynt, a’u hunig gymhelliad dros ymwneud â’r SNP, yw ennill annibyniaeth i’r Alban.
Mae arweinwyr gwleidyddol y blaid, ar y llaw arall, yn sylweddoli bod hyn yn fwy cymhleth nag mae’n ymddangos. Fel plaid lywodraethol, maen nhw hefyd yn gorfod rhoi blaenoriaeth i’w cyfrifoldeb o redeg yr Alban o ddydd i ddydd, a chadw’r ddysgl yn wastad rhwng plesio’u haelodau a chadw cefnogaeth y cyhoedd yn gyffredinol.
Eu dadl nhw fyddai mai’r ffordd orau o sicrhau annibyniaeth ydi trwy ddangos eu bod nhw’n gallu llywodraethu’r Alban yn dda. I raddau helaeth, dyma sydd wedi bod wrth wraidd yr hyn mae Nicola Sturgeon wedi ceisio’i wneud dros y blynyddoedd diwethaf. Gwendid hyn, yng ngolwg llawer o aelodau, yw na fydd ennill un etholiad ar ôl y llall i lywodraethu Senedd yr Alban yn golygu unrhyw camau pellach at annibyniaeth o angenrheidrwydd.
Neges annibyniaeth
Yn rhannol mewn ymateb i hynny, dechreuwyd trafod y syniad o ddefnyddio etholiad San Steffan nesaf i ganolbwyntio’n gyfan gwbl ar bregethu neges annibyniaeth ac o ddefnyddio pob pleidlais fel mandad dros hyn. Nid yw’n ymddangos fod cefnogaeth ddigonol o fewn y blaid i hyn, fodd bynnag.
Mewn gwirionedd, byddai mynd yn ôl at ymladd etholiadau ar sail annibyniaeth yn cyfannu cylch cyfan i’r SNP, cyn iddyn nhw ganolbwyntio ar geisio refferendwm ar y pwnc. Mae’n werth cofio beth oedd cymhelliad gwreiddiol yr SNP o dan arweiniad Alex Salmond dros addo refferendwm o’r fath.
Nid hwyluso’r ffordd at annibyniaeth oedd prif ddiben yr addewid am refferendwm, ond modd o’i gwneud yn haws i’r SNP ddenu pleidleisiau pobl nad oedd o angenrheidrwydd o blaid annibyniaeth.
Pan enillodd Alex Salmond fwyafrif llwyr yn etholiad 2011, a fyddai’n arwain at wireddu’r addewid o refferendwm, doedd neb mewn gwirionedd yn disgwyl i hynny arwain at bleidlais o blaid annibyniaeth.
Yr hyn a ddigwyddodd oedd i’r canlyniad fod yn llawer agosach na’r disgwyl, ac mae hynny wedi arwain llawer i gredu y byddai’r un math o ymchwydd i’r bleidlais o blaid a ddigwyddodd yn ystod yr ymgyrch yn digwydd eto mewn ail refferendwm ar y pwnc. O ganlyniad, mae’r nod o ail refferendwm bron fel pe bai wedi mynd yn ddiben ynddo’i hun gan rai, yn sgil rhyw fath o feddylfryd naïf y byddai hynny’n cynnig rhyw fath o quick fix at annibyniaeth.
Ar y llaw arall, roedd Nicola Sturgeon, fel llawer arall o arweinwyr mwy hirben y blaid, yn sylweddoli mai ffolindeb fyddai cael refferendwm heb sicrhau yn gyntaf y byddai hwnnw’n cael ei ennill. Mi fyddai pleidlais ‘na’ arall yn sicr yn cau’r drws yn llwyr am amser maith. Yn wyneb hyn i gyd, gellid dadlau bod Nicola Sturgeon wedi bod yn lwcus fod y goruchaf lys yn Llundain wedi gwrthod hawl i gynnal refferendwm. Ar y llaw arall, mae wedi cythruddo llawer o aelodau ei phlaid i bwyso am weithredu mwy pendant, ac mae’r pwysau hyn yn debygol o barhau.
Er hyn, mae Brexit wedi cymhlethu’r achos cenedlaethol yn yr Alban, yn union fel yng Nghymru, gan y bydd yn anochel o godi pob mathau o gwestiynau anodd am ffiniau, fel sydd wedi digwydd yng Ngogledd Iwerddon.
Mae’n sicr fod sylweddoli hyn yn gynnar wedi bod yn ffactor pwysig ym mhenderfyniad Nicola Sturgeon i chwarae rhan flaenllaw mewn ymgyrchoedd ledled Prydain i geisio gwrthdroi Brexit.
Cam gwag
Er gwaethaf ei harweiniad doeth ar faterion cyfansoddiadol, ni ellir yn anffodus ddweud yr un peth am y ffordd mae hi wedi ymdrin â phwnc llosg deddf cydnabod rhywedd yn ddiweddar.
Mae adroddiadau iddi fod yn gwbl ddigyfaddawd a gwrthod unrhyw welliannau i gymedroli rhywfaint ar rai o’r elfennau mwyaf eithafol yn y ddeddf. Roedd hyn er gwaethaf pryderon eang, ymysg merched yn bennaf.
Ei chamgymeriad mwyaf, a chwbl anesboniadwy, oedd mynnu y byddai’n mynd i’r llysoedd i herio penderfyniad llywodraeth Prydain i rwystro’r ddeddf.
Os yw plaid genedlaetholgar fel yr SNP eisiau gwrthdaro agored gyda’r llywodraeth ganolog, y peth cyntaf i’w wneud yw sicrhau bod gennych achos poblogaidd i ymladd drosto. Mae’r ffaith iddi fethu â gweld nad oedd ganddi ddim byd o’r fath yn yr achos hwn yn dangos sut y gall y gwleidyddion galluocaf gymryd cam difrifol o wag ar adegau.
Beth bynnag yw barn rhywun am faterion yn ymwneud â rhywedd, ni ellir disgrifio deddf sy’n methu â rhwystro treisiwr rhag smalio bod yn ddynes ond fel deddf sylfaenol ddiffygiol. O’r herwydd, mae’r mwyafrif o bobl am gefnogi unrhyw ffordd o rwystro deddf o’r fath – pa bynnag sefydliad a fyddai’n gwneud hynny.
Disgyblaeth
Mae’n ymddangos bod Nicola Sturgeon wedi llwyddo i gynnal disgyblaeth haearnaidd yn yr SNP drwy gydol ei harweinyddiaeth, a gall hynny hefyd wneud pethau’n anodd i’w holynydd. Y rhagolygon hefyd yw y bydd yr SNP yn colli mwy fyth o aelodau, pwy bynnag fydd yn ennill.
Mae’n farn gyffredinol yn yr Alban mai’r ysgrifennydd iechyd, Humza Yousaf, yw ymgeisydd ‘sefydliad’ yr SNP, ac nad oes ddim amheuaeth mai ef yw’r ffefryn gan Nicola Sturgeon i gymryd ei lle. Mae’n cael ei weld fel yr ymgeisydd uniongred a fyddai’n cadw’r blaid ar yr un trywydd, er ei bod yn weddol amlwg nad oes ganddo’r un doniau â hi.
Mae’n ymddangos mai ei brif wrthwynebydd yw Kate Forbes, yr Ysgrifennydd Cyllid. Yn ferch i genhadon Gaeleg eu hiaith a gafodd ei magu yn India, diddorol oedd yr hanes amdani’n synnu newyddiadurwyr wrth ateb cwestiwn mewn Gaeleg i BBC Alba yr wythnos yma. Er bod rhai o’i daliadau crefyddol yn ei gwneud yn bechadur o’r mwyaf yng ngolwg rhai, mae ambell i arolwg barn yn awgrymu mai hi fyddai’r fwyaf poblogaidd yng ngolwg y cyhoedd yn gyffredinol.
Y trydydd ymgeisydd, Ash Regan, yw’r cenedlaetholwr mwyaf digyfaddawd o’r tri, ac mae’n ymddangos mai hi fyddai fwyaf poblogaidd ymysg cefnogwyr Alex Salmond, ond mae’n sicr y bydd llawer o’r rheini ymysg y miloedd sydd wedi gadael yr SNP.
Mae’r ffordd mae’r blaid wedi colli cymaint o aelodau yn sicr o daflu cysgod dros weddill yr ymgyrch, yn enwedig yn sgil amheuon fod y blaid wedi ceisio cuddio’r wybodaeth tan rwan, a hynny rhag yr ymgeiswyr hyd yn oed.
Nid yw wrth fodd pawb chwaith mai gŵr Nicola Sturgeon, fel prif weithredwr yr SNP, sy’n gyfrifol am yr etholiad, ac mae hyn wedi gwenwyno’r awyrgylch ymhellach. Os mai Humzsa Yousaf fydd yn fuddugol, mae hynny’n sicr o arwain at amheuon am ddilysrwydd y ffordd y cafodd yr etholiad ei gynnal, a gall rhagor o genedlaetholwyr traddodiadol golli ffydd.
Os mai’r naill neu’r llall o’r ddwy ferch fydd yn ennill, gall hynny arwain at ddrwgdeimlad o gyfeiriad arall, gydag aelodau sy’n cefnogi’r trywydd presennol yn gadael.
Mae’r ddwy wedi addo hefyd y bydd y ddeddf cydnabod rhywedd yn mynd i’r bin sbwriel os byddan nhw’n ennill. Penderfyniad call a synhwyrol yng ngolwg y mwyafrif o bobl, efallai, ond a fyddai’n debygol o rwygo’r glymblaid rhwng yr SNP a’r Gwyrddion yn Senedd yr Alban. Pam fod y Gwyrddion, plaid y byddai disgwyl iddyn nhw ganolbwyntio ar faterion amgylcheddol, yn teimlo mor gryf ar fater mor amherthnasol i’w gwerthoedd craidd sydd gwestiwn arall, wrth gwrs.
Efallai mai’r wers wleidyddol bwysicaf yn hyn i gyd yw sut mae gwrando gormod ar leiafrif bach o eithafwyr ymylol wedi cyfrannu at gwymp un o wleidyddion disgleiriaf gwledydd Prydain.