“Mae’r ffordd rydan ni’n trin y bobol fwyaf bregus yn ein plith yn adlewyrchiad pwysig o’n cymdeithas a’n moesoldeb,” yn ôl un fydd yn annerch torf fydd yn ymgynnull ym Mangor heddiw (dydd Sadwrn, Mawrth 18) am 2 o’r gloch.
Mae Catrin Wager am i bobol o dramor sydd wedi cael profiadau erchyll gael yr hawl i geisio am loches, waeth beth yw eu hamgylchiadau a sut wnaethon nhw gyrraedd glannau’r Deyrnas Unedig.
Dydy hi ddim yn cytuno â’r Ddeddf Mudo Anghyfreithlon ddadleuol fydd yn ceisio atal llawer iawn o bobol rhag dod i wledydd y Deyrnas Unedig os ydyn nhw wedi cyrraedd yma’n anghyfreithlon.
Dydy hi ddim yn meddwl ei bod yn ddigon hawdd i bobol sy’n ffoi o’u gwledydd eu hunain ddod yma’n gyfreithlon, ac mae hi hefyd o’r farn fod y Ddeddf ei hun yn anghyfreithlon.
Gwrthwynebu’r Ddeddf Mudo
Mewn cymdeithas deg, mae Catrin Wager yn credu y dylai pawb gael eu trin yn dosturiol.
Ond byddai’r ddeddf yn ei gwneud yn anghyfreithlon i bobol sy’n cyrraedd y Deyrnas Unedig geisio am loches.
Yn ôl Catrin Wager, does dim llawer o ffyrdd cyfreithlon i bobol gyrraedd yma.
“Mae’r ffordd rydan ni’n trin y bobol fwyaf bregus yn ein plith yn adlewyrchiad pwysig o’n cymdeithas a’n moesoldeb,” meddai wrth golwg360.
“Mae’r ddeddf yma yn mynd i effeithio ar bobol sydd yn debygol iawn o fod wedi wynebu erllychtra, ac yn gwneud hynny heb empathi na theyrngarwch.
“Yn sylfaenol, mae’r ddeddf yn dweud na fydd gan rai sydd yn cyrraedd y Deyrnas Unedig yn ‘anghyfreithlon’ unrhyw hawl i geisio am loches, dim ots pa mor ddilys ydy eu cais.
“Ond mae problem sylfaenol gyda hyn – does fawr ddim ffyrdd y gall pobol sy’n ffoi gyrraedd yma yn gyfreithlon yn y lle cyntaf.
“Mae’r dulliau cyfreithlon o gyrraedd y Deyrnas Unedig drwy’r cynlluniau adleoli yn gaeth iawn, ac i unrhyw un sydd y tu allan i’r cynlluniau yma (sef dros 99% o geiswyr lloches yn fyd-eang), mae angen iddyn nhw gyrraedd Prydain i allu gwneud cais, ac mae confensiynau rhyngwladol yn dweud fod ganddyn nhw hawl i wneud hynny.
“Ond mae’r ddeddf yma yn edrych i benderfynu eu cais am loches ar sail y dull maen nhw’n cyrraedd, ac nid eu hangen am loches na dilysrwydd eu cais.
“Mae hyn yn anfoesol, ac yn mynd yn erbyn confensiynau a phrotocolau rhyngwladol. Rydym yn sôn am gau’r drws ar geiswyr lloches, ac mae hynny yn beth peryglus ac anfoesol.”
Deddf anghyfreithlon
Yn ôl Catrin Wager, mae’r ddeddf yn un anghyfreithlon ar lefel Ewropeaidd a rhyngwladol.
Gwleidyddion yn San Steffan fydd yn penderfynu a fydd y ddeddf hon yn cael ei phasio, ac mae Aelodau Seneddol Plaid Cymru wedi bod yn ei gwrthwynebu.
“Enw’r ddeddf ydy’r Illegal Immigration Bill, neu’r Ddeddf Mudo Anghyfreithlon, ond dwi’n meddwl ei bod yn addas defnyddio ‘i’ neu ‘a’ fach i awgrymu fod y ddeddf ei hun yn anghyfreithlon,” meddai.
“Mae hawl ffoaduriaid i ffoi, ac i geisio am loches mewn gwlad saff, wedi ei nodi mewn sawl darn o ddeddfwriaeth ryngwladol megis Confensiwn Ffoaduriaid 1951 a phrotocol 1967, a’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol a’r Human Rights Act 1998.
“Mae’n nodweddiadol fod y ddeddf yn cael ei chyflwyno gan gydnabod fod yna debygolrwydd o dros 50% fod y ddeddf ddim yn cyd-fynd â Chonfensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol, a dwi’n ei ffeindio’n frawychus fod gweinidog i weld yn ymfalchïo yn y ffaith fod deddfwriaeth mae hi’n ei chyflwyno yn ‘push[ing] boundaries of international law‘.
“Mae mudiadau fel Amnesty International, Yr UNHCR (Asiantaeth Ffoaduriaid y Cenhedloedd Unedig), a Freedom from Torture, ymhlith eraill, yn teimlo fod y ddeddf yma yn torri cyfraith ryngwladol.
“Mater i’r tai seneddol fydd cysidro dilysrwydd y ddeddf yma, a dwi’n gobeithio y bydd mwy o herio yn codi drwy’r broses scrutiny ac yn Nhŷ’r Arglwyddi.
“Rwy’n ymwybodol fod Aelodau Seneddol Plaid Cymru wedi lleisio barn yn gryf y dylem gefnogi hawliau ffoaduriaid a gwrthwynebu’r ddeddf, a dwi’n ddiolchgar am hynny.
“Be’ sy’n sicr am y ddeddf yma ydy ei bod yn amddifadu pobol sydd wir angen ein cymorth, ac mae hynny yn ei hun yn anfaddeuol.”
Ieithwedd sy’n “dad-ddyneiddio” pobol
Yn ôl Catrin Wager, dydy’r ieithwedd sy’n cael ei defnyddio ddim yn drugarog at bobol o gwbl.
“Mae yna hefyd elfen bwysig iawn arall sydd angen ei gysidro – yr ieithwedd sy’n cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth San Steffan,” meddai.
“Drwy ddefnyddio termau fatha ‘swarms‘, ‘invasion‘ ac ‘illegal‘, rydan ni’n creu naratif sy’n dad-ddyneiddio pobol sydd eisoes yn fregus iawn, ac mae hynny’n beth peryglus.
“Mae felly yn bwysig ein bod yn dod ynghyd i atgoffa’n gilydd fod y rhain oll yn bobol ar ddiwedd y dydd, a bod rhaid i ni ymdrin â nhw hefo empathi, tegwch a charedigrwydd.”
Y digwyddiad
Fel un sy’n angerddol am y mater y bydd Catrin Wager yn annerch y dorf, a bydd amryw o bobol a mudiadau eraill yno hefyd, ac mae croeso i unrhyw un sy’n gwrthwynebu’r ddeddf ymuno.
“Dw i’n ddiolchgar am hynny, gan fod gen i deimladau cryf am y mater,” meddai.
“Bydd yna rywun o Bobol i Bobol, Refugee Tales Cymru a Wales for Europe hefyd yn siarad.
“Byddwn yn annog unrhyw un sydd â phryderon am y ddeddf i ddod draw i gydsefyll â ni.”
Lluniau’r digwyddiad