Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth £4m i ddenu atyniad twristaidd newydd o’r radd flaenaf gan Skyline i Abertawe.

Skyline Enterprises Ltd sy’n arwain y fenter gwerth £34m, un o’r buddsoddiadau unigol mwyaf o fewn sector twristiaeth a lletygarwch Cymru ers blynyddoedd.

Mae Cyngor Abertawe hefyd wrthi’n trafod cynnig ariannol gyda Skyline, sy’n rywbeth mae’r cwmni’n ei ystyried ar hyn o bryd.

Mae cynigion Skyline ar gyfer Abertawe yn cynnwys ceir cebl a system cadeiriau codi, profiad cartio ‘luge’ am i lawr gan Skyline, siglen awyr, llwybrau cerdded presennol a newydd, zipline, mynediad ychwanegol i feiciau mynydd, a siopau bwyd a diod.

Mae disgwyl i’r prosiect greu hyd at 100 o swyddi cyfwerth ag amser llawn uniongyrchol.

Byddai’r system ceir cebl arfaethedig yn mynd i ben Bryn Cilfái o ardal Gwaith Copr Hafod Morfa.

Mae’r arian sy’n cael ei gyhoeddi ar gyfer y prosiect yn ddibynnol ar dderbyn caniatâd cynllunio, a bod y gwaith yn dechrau ar y safle.

Byddai’r cyllid yn cael ei ddyrannu fesul cam drwy gydol y camau adeiladu a chyflawni.

‘Cyrchfan ddinesig fywiog’

“Mae’r prosiect hwn yn arwyddocaol wrth i ddinas Abertawe ddatblygu ymhellach fel cyrchfan ddinesig fywiog,” meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon yn Llywodraeth Cymru.

“Mae’n cyd-fynd â phrosiectau adfywio eraill yn yr ardal, yn ogystal â chefnogi twf economaidd a swyddi gydol y flwyddyn.

“Pan oeddwn yn Seland Newydd y llynedd, gwelais drosof fy hun sut roedd Skyline Enterprises yn Queenstown wedi defnyddio’r dirwedd naturiol fel cefndir hyfryd i fenter lwyddiannus.

“Dyma gyfle mewnfuddsoddi unigryw i ni, ac rwy’n dymuno’n dda i’r tîm gyda’u menter ddiweddaraf yng Nghymru.”

Yn ddiweddar, ymwelodd cynrychiolwyr Skyline Enterprises, y cwmni o Seland Newydd sy’n gyfrifol am y cynigion, ag Abertawe i gynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori yn y gymuned leol fel rhan o’r broses gynllunio.

Bydd rhagor o gyfleoedd i gyflwyno sylwadau fel rhan o broses ymgeisio am ganiatâd cynllunio yn ddiweddarach yn 2023.

‘Cyrchfan hamdden awyr agored o’r radd flaenaf’

“Rydym yn croesawu’r ymrwymiad hwn gan Lywodraeth Cymru ac rydym hefyd mewn trafodaethau parhaus gyda Skyline o ran cyllid fel rhan o bartneriaeth a fydd, yn amodol ar ganiatâd cynllunio, yn creu cyrchfan hamdden awyr agored o’r radd flaenaf yn Abertawe,” meddai Rob Stewart, arweinydd Cyngor Abertawe.

“Byddai’r cynigion hyn yn arwain at greu hyd at 100 o swyddi newydd o ganlyniad uniongyrchol i’r prosiect yn ogystal â channoedd yn rhagor yn ystod y gwaith adeiladu.

“Byddai hefyd yn dod ag un o’r atyniadau cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig i’r ddinas, yn rhoi hwb sylweddol i’n heconomi ymwelwyr, ac yn helpu i annog mwy o fuddsoddiad yn y dyfodol.

“Mae Skyline wedi ymrwymo’n llwyr i gadw mynediad i’r bryn fel y mae ar hyn o bryd ac mae’n gweithio’n agos ochr yn ochr â grwpiau lleol i hybu bioamrywiaeth a chreu cyfleuster y gallwn oll ymfalchïo ynddo.”

Yn ôl Geoff McDonald, Prif Weithredwr Skyline Enterprises, mae’r cwmni’n “hynod ddiolchgar” i Lywodraeth Cymru “am eu cefnogaeth a’u hymrwymiad hael iawn i Skyline Abertawe.”

“Ers i ni ddod i Gymru gyntaf yn 2017 i drafod y cynlluniau am Fryn Cilfái, rydym ni wedi mwynhau perthynas hynod gadarnhaol â nhw, ac maen nhw wedi dangos brwdfrydedd mawr dros ein gweledigaeth sydd hefyd yn plethu’n dda gyda’r strategaeth dwristiaeth,” meddai.

“Os caiff ein cais ei gymeradwyo, edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda nhw, a Chyngor Abertawe, i ddarparu cyrchfan hamdden o’r radd flaenaf fydd y cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig ac un sydd, yn ein barn ni, yn wir, yn cyflwyno buddiannau parhaol i drigolion Abertawe ac ymwelwyr fel ei gilydd.”

Mae cwmni Skyline o Seland Newydd yn rhedeg ac yn berchen ar ddau barc antur awyr agored o’r radd flaenaf sy’n cynnwys reidiau ceir cebl ac atyniadau a bwytai eraill yn Seland Newydd, yn ogystal â pharciau luge yng Nghanada, De Corea a Singapôr.

Os caiff y prosiect sêl bendith, byddai Skyline Abertawe yn rhan o’u hestyniad rhyngwladol,.