Fel un sydd wedi dioddef neu wedi’i amau o drosedd, neu fel tyst i drosedd, efallai y gwelwch chi fod craffu ar eich gweithredoedd, eich ymddygiad neu eich cymeriad gan yr heddlu neu fargyfreithiwr gan ddefnyddio deunydd camerâu cylch-cyfyng. Efallai y byddwch chi’n cymryd bod yr holl ddeunydd perthnasol wedi’i gasglu a’i wylio. Efallai y byddwch chi’n eistedd ar reithgor a bod disgwyl i chi werthuso deunydd camerâu cylch-cyfyng i helpu i benderfynu a ydych chi’n cael diffynnydd yn euog neu’n ddieuog.

Efallai eich bod chi’n credu y gwelwch chi’r holl ddelweddau allweddol. Efallai eich bod chi’n credu nad yw’r camera byth yn dweud celwydd.

Fodd bynnag, mae’r dystiolaeth wnaethon ni ei chasglu yn ystod ein hastudiaeth o ymchwiliadau ac achosion llys llofruddiaeth Prydeinig yn datgelu sut mae deunydd camerâu cylch-cyfyng yn gofyn am ddehongliad a gwerthusiad gofalus a sut y gall fod yn gamarweiniol, fel mathau eraill o dystiolaeth megis DNA ac olion bysedd.

Yn hytrach na darparu’r “gwirionedd” absoliwt, mae modd cael gwahanol ystyron o’r un deunydd. Ond mae deall yr heriau a’r peryglon sydd ynghlwm wrth ddeunydd camerâu cylch-cyfyng yn hanfodol mewn system deg a thryloyw er mwyn atal achosion posib o gamweinyddu cyfiawnder.

Tystiolaeth

Yn aml iawn, mae’r system gyfiawnder yn dibynnu ar dystiolaeth ddigidol i gefnogi ymchwiliadau ac erlyniadau ac mae camerâu cylch-cyfyng yn un o’r dulliau y mae’r mwyaf o ddibyniaeth arno. Mae amcangyfrifon diweddar yn awgrymu bod yna fwy na 7.3m o gamerâu yn y Deyrnas Unedig, sy’n gallu dal person hyd at 70 gwaith y dydd.

Gall y cyhoedd gael eu ffilmio ar gamerâu cylch-cyfyng y Cyngor, gan gamerâu ar fangre fasnachol, neu ar fangre breswyl (camerâu cartref neu gloch drws ffrynt clyfar), yn ogystal ag ar drafnidiaeth gyhoeddus a dashcam.

Dyn yn eistedd wrth ddesg o flaen nifer o sgriniau banc, a phob un yn dangos deunydd camerâu cylch-cyfyng
Mae camerâu cylch-cyfyng yn un o’r dulliau mwyaf poblogaidd o dystiolaeth fforensig ddigidol (Llun: Gorodenkoff/Shutterstock)

Yn ein hastudiaeth o 44 o ymchwiliadau i lofruddiaethau Prydeinig, dangoson ni sut mae camerâu cylch-cyfyng yn cynnig nifer o fanteision i ymchwilwyr. Gall helpu i adnabod rhai dan amheuaeth a thystion, a chysylltu neu ddileu rhai dan amheuaeth. Gall helpu hefyd i gefnogi neu wrthbrofi cofnodion rhai dan amheuaeth a thystion. Fodd bynnag, mae ein canfyddiadau hefyd yn dangos sut gall camerâu cylch-cyfyng fod yn annibynadwy a phroblematig.

Gwendidau

Mae camerâu cylch-cyfyng weithiau’n anhygyrch neu’n cael eu colli oherwydd bod y ditectif sy’n cael ei anfon i gasglu’r deunydd heb y sgiliau, yr hyfforddiant a’r offer i’w gasglu’n amserol. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod deunydd camerâu cylch-cyfyng yn aml yn cael ei ddileu o fewn tair wythnos o gael ei recordio. Gwelson ni ei fod yn aml yn cael ei ddileu o fewn saith i ddeng niwrnod.

Ar adegau eraill, dydy perchnogion ddim yn gallu cael mynediad at systemau neu’n methu rheoli faint o ddeunydd camerâu cylch-cyfyng mae rhywun yn gofyn amdano, er enghraifft wrth fynd â bysiau allan o wasanaeth er mwyn i ddeunydd gael ei lawrlwytho. A hyd yn oed pan fo deunydd yn cael ei gasglu’n llwyddiannus, efallai na fydd swyddogion ar gael i’w wylio i gyd.

Mae yna berygl hefyd nad yw’r deunydd allai ryddhau rhywun sydd dan amheuaeth yn cael ei ddatgelu i’r amddiffyniad, allai olygu bod pobol ddieuog yn cael eu carcharu.

Yn aml iawn, rhaid i dditectifs wneud synnwyr o ddelweddau o ansawdd isel sydd yn aneglur neu’n raenllyd. Dydy hyn ddim yn hawdd. Yn rhai o’r ymchwiliadau y gwnaethon ni eu harsylwi, ceisiodd yr heddlu wella delweddau ansawdd isel, ond doedd hyn ddim bob amser yn llwyddiannus.

Rhaid i ymchwilwyr benderfynu hefyd a ydyn nhw am dynnu ar arbenigwyr i ddehongli deunydd a chyflwyno tystiolaeth yn y llys. Fodd bynnag, does gan yr heddlu ddim canllaw clir i’w helpu i benderfynu a ddylid tynnu ar y fath arbenigedd, a phryd. Fe wnaethon ni arsylwi achosion lle penderfynodd swyddogion beidio cael mewnbwn arbenigol oherwydd roedden nhw’n hyderus yn eu dehongliad eu hunain.

Fe wnaeth ein hastudiaeth ni ddatgelu hefyd sut mae rhai ditectifs neu swyddogion camerâu cylch-cyfyng yn cael eu defnyddio dro ar ôl tro i wylio neu ddehongli deunydd gan eu bod nhw’n cael eu hystyried gan eraill (neu ganddyn nhw eu hunain) yn “uwch-adnabyddwyr (super-recognisers)”. Dyma bobol all fod yn well nag eraill am adnabod wynebau. Fodd bynnag, does dim camau pendant ar gyfer penderfynu a yw rhywun yn uwch-adnabyddwr. Ymhellach, os yw uwch-adnabyddwyr yn cael eu hystyried ar gam fel tystion arbenigol, yna gallai eu tystiolaeth gael ei or-brisio yn ystod ymchwiliad yr heddlu neu yn y llys.

Erbyn i ddeunydd camerâu cylch-cyfyng gael ei ddangos i reithgor, mae wedi’i goreograffio’n ofalus gan yr heddlu a bargyfreithiwr yr erlyniad. Maen nhw’n aml yn alluog wrth ddethol, trefnu a golygu deunydd yn becynnau slic.

Caiff y technegau hyn eu defnyddio gan yr amddiffyniad hefyd, sydd yn penderfynu a ddylid defnyddio deunydd llonydd neu symudol, ac ar ba gyflymder y dylid dangos y clipiau a phryd i ychwanegu sylwebaeth. Mae hyn er mwyn dangos “gwirionedd amgen” a darparu dehongliad gyferbyniol o’r un deunydd. Gall fod yn anodd i reithgorau benderfynu sut mae’r deunydd wedi’i olygu.

Safon aur?

Ar y cyfan, caiff ymchwiliadau i lofruddiaethau eu hystyried yn ymchwiliadau troseddol o safon aur, o ganlyniad i fuddsoddi amser, adnoddau ac arbenigedd. Serch hynny, datgelon ni nifer o heriau, gwallau a pheryglon sydd ynghlwm wrth ddefnyddio camerâu cylch-cyfyng. Mae’r rhain yn debygol o fod yn fwy fyth mewn mathau eraill o ymchwiliadau troseddol, lle gall staffio a gwybodaeth ynghylch tystiolaeth ddigidol fod yn fwy cyfyng.

Mae angen i bawb sydd ynghlwm wrth drin a thrafod, dehongli a chyflwyno deunydd ddeall cymhlethdodau camerâu cylch-cyfyng, yn ogystal â chan y rheiny ohonom y gallai ein gweithredoedd a’n cofnodion fod yn destun craffu ar sail deunydd camerâu cylch-cyfyng.

Mae’r heriau a’r peryglon sydd wedi’i nodi yma’n debygol o ddwysáu wrth i dechnolegau digidol ddatblygu, fel gafodd ei ddangos o ran pryderon diweddar am dechnolegau awtomataidd adnabod wynebau a’r perygl o fideos deepfake.