Mae yna grŵp o fyfyrwyr yn Ysgol David Hughes yn cydweithio â Chymunedau Digidol Cymru, gyda chefnogaeth Cyngor Ynys Môn, i adeiladu beiciau digidol gan ailgylchu hen feiciau ymarfer.
Yr her heddiw (dydd Gwener, Mawrth 17) yw cwblhau pedwar beic mewn un diwrnod fel rhan o’r ‘her beic undydd’.
Ar ôl eu gorffen, bydd y beiciau’n cael eu weirio i liniadur i alluogi’r person ar y beic i bedlo ar Google Streetview i allu mynd “am dro ar hyd llwybrau co”.
Bydd y beiciau’n cael eu defnyddio yng nghartrefi gofal Ynys Môn i ymarfer corff a meddwl y preswylwyr.
Mae Cyngor Môn wedi ariannu’r beiciau, ac yn awyddus i’w defnyddio er iechyd a llesiant.
Mae’r beiciau’n gyfle i bobol hel atgofion wrth seiclo i le bynnag maen nhw’n dymuno mynd, ond hefyd i gadw’r corff yn actif, sy’n neilltuol bwysig i bobol sy’n byw â dementia.
O arfordir Amalfi i ben Yr Wyddfa – mae’r byd o flaen ei bysedd.