Mae Pere Aragonès, Arlywydd Catalwnia, wedi llofnodi memorandwm o ddealltwriaeth gyda Axel Kicillof, llywodraethwr talaith Buenos Aires er mwyn meithrin mwy o gydweithio rhwng y ddwy lywodraeth ar faterion megis materion cymdeithasol a diwylliannol, addysg, rhywedd, Agenda 2030, dinasoedd deallus, cynaladwyedd a mwy.

Ei nod yw creu “perthynas sefydlog a pharhaus” rhwng Catalwnia a Thalaith Buenos Aires, ardal fwyaf poblog y wlad sy’n cynnwys y brifddinas.

Bydd cyd-bwyllgor sydd wedi’i sefydlu yn sgil y memorandwm yn cyfarfod bob dwy flynedd, ac fe fydd y memorandwm yn ddilys am bedair blynedd ac yn cael ei ddiweddaru bob dwy flynedd.

Mae Catalwnia’n ystyried Buenos Aires fel “partner strategol”, a’r gobaith yw sefydlu cytundebau tebyg gydag awdurdodau eraill yn Ne America am resymau hanesyddol, economaid a geowleidyddol.

Mae un o’r cymunedau Catalanaidd tramor mwyaf yn y byd wedi’i lleoli yn yr Ariannin, gwlad oedd wedi derbyn nifer fawr o alltudion ar ôl Rhyfel Cartref Sbaen.

Mae disgwyl i Pere Aragonès dalu teyrnged i un o’i ragflaenwyr, Lluís Companys, ger cofeb yn Buenos Aires yn ystod ei ymweliad.

Ar ôl teithio i Golombia ac Wrwgwai, bydd taith Pere Aragonès yn dod i ben yn Chile, lle mae disgwyl iddo gyfarfod â nifer o wleidyddion blaenllaw.