Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cyhuddo Llywodraeth Lafur Cymru o “hatric” o fethiannau yn ymwneud â swyddi a’r economi.
Mae’r ffigurau diweithdra diweddara’n dangos bod nifer y bobol mewn cyflogaeth wedi gostwng 33,508 yn 2022.
Maen nhw hefyd yn dangos cynnydd o 6,301 mewn diweithdra, a chynnydd o 36,378 yn nifer y bobol economaidd anweithgar.
Ar draws y Deyrnas Unedig, 3.7% oedd y gyfradd ddiweithdra sy’n uwch na chyfradd ddiweithdra Cymru.
Yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, mae’r ffigurau diweddara’n “hynod siomedig, o ystyried y dylai Cymru fod ar ei ffordd tuag at adfer yn llwyr ar ôl y pandemig”.
“Roedd gan y Llywodraeth Lafur gyfle gyda’u cyllideb ddiweddaraf, ac fe wnaethon nhw ei fethu, i wrando ar alwadau adeiladol y Ceidwadwyr Cymreig i ddiwygio cyfraddau busnes, cefnogi symudiad busnesau tuag at ynni gwyrdd, a darparu rhyddhad i weithwyr a chyflogwyr.
“Dydy’r ffigurau hyn ddim yn synod gan Blaid Lafur sy’n canslo adeiladu ffyrdd, sy’n gosod treth ar y sector twristiaeth ac yn cyfaddef nad oedden nhw’n gwybod beth maen nhw’n ei wneud o ran yr economi.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
“Rydym yn gweithio’n galed i greu Cymru sy’n fwy cyfartal a ffyniannus, lle mae gan bawb gyfle i gyrraedd eu llawn botensial ac i chwarae eu rhan lawn yn ein heconomi a’n cymdeithas, a lle mae mwy o bobol yn teimlo’n hyderus ynghylch cynllunio’u dyfodol yng Nghymru,” meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru.
“Dyna pam rydyn ni’n cefnogi busnesau i greu mwy o swyddi o safon, bod yn fwy hyblyg a darparu cyfleoedd sy’n talu’n well i weithwyr.
“Rydyn ni’n parhau i ganolbwyntio ar leihau segurdod economaidd.
“Mae ein Cenhadaeth Economaidd yn cadarnhau’r ysgogiadau sydd gennym i leihau’r rhaniad sgiliau, cefnogi swyddi gwell ac yn eu tro mynd i’r afael â thlodi.
“Mae ein Cynllun ar gyfer Cyflogadwyedd a Sgiliau yn blaenoriaethu’r bobol sydd fwyaf angen cymorth.
“Mae hyn yn cynnwys cefnogi pobol i aros mewn gwaith a’r rhai sy’n bellach i ffwrdd o’r farchnad lafur i ddod o hyd i waith.”