Mae newyddiadurwraig gyda The National wedi ymateb gyda syndod, ar ôl i Kate Forbes gynnal cyfweliad dwyieithog ar deledu cenedlaethol yn yr Alban.

Cafodd Ysgrifennydd Cyllid yr Alban yn cael ei holi yn Saesneg gan y BBC ar gyfer BBC Alba gan nad oedd siaradwr Gaeleg yr Alban ar gael, ac roedd hi’n ateb yn ei mamiaith.

“Rhyfeddol gwylio Kate Forbes yn siarad Gaeleg ar gyfer BBC Alba i ystafell llawn siaradwyr di-Aeleg nad oedden nhw’n gallu gofyn unrhyw gwestiynau dilynol, erioed wedi gweld y fath beth,” meddai Laura Webster ar Twitter.

Ar ôl cael ei beirniadu am ei sylwadau, aeth yn ei blaen i egluro nad oedd hi’n ceisio bod yn negyddol, a bod y profiad wedi creu argraff arni.

“Mae cynifer o bobol fel pe baen nhw’n meddwl bod hyn yn feirniadaeth neu’n Saesneg-ganolog, ond dydy hi ddim o gwbl,” meddai.

“Roedd yn brofiad diddorol gweld Kate yn cael ei holi yn Saesneg ac yn ymateb yn yr iaith Aeleg.

“Doedd hyn ddim yn rywbeth dw i wedi’i weld yn digwydd mewn unrhyw iaith.

“Dw i’n gefnogol iawn i siarad Gaeleg!

“Roedd gennym ni sylw arbennig i’r iaith Aeleg yn y papur rai wythnosau yn ôl, llawer o erthyglau ar yr iaith Aeleg – mae’n bwnc pwysig a dw i’n awyddus i roi mwy o sylw iddi, felly plis peidiwch â ‘nghymryd i allan o ‘nghyd-destun yma.”

Wrth ymateb i’w sylwadau, dywedodd dyn camera a gohebydd Seonaidh Mackenzie iddo gael profiad tebyg rywdro yn y gorffennol.

“Yn stiwdio’r BBC yn Inbhir Nis (Inverness), ro’n i’n paratoi rhywun i gael eu cyfweld ar gyfer BBC Cymru, gyda chynhyrchydd yn siarad dros uchelseinydd yn Gymraeg,” meddai.

“Dw i’n siarad â’r dyn camera yn yr iaith Aeleg, gwesteion TG4 (Iwerddon) yn dod i mewn yn siarad Gaeilge, a boi BBC Scotland yn dod i mewn â Saesneg.”