Mae pôl piniwn newydd yn dangos bod 39% o drigolion yr Alban bellach yn cefnogi annibyniaeth.

Yn ôl y pôl gan YouGov ar ran Sky News, 47% sy’n dymuno aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig.

Cafodd 1,002 o bobol eu holi fel rhan o’r arolwg yn yr Alban rhwng Mawrth 9-13.

Mae’n awgrymu cwymp bach yn y gefnogaeth i annibyniaeth ers y pôl fis diwethaf, oedd yn dangos bod 40% o blaid annibyniaeth.

Yn y refferendwm annibyniaeth yn 2014, roedd 45% o blaid annibyniaeth a 55% yn dymuno aros yn rhan o’r Deyrnas Unedig, ond mae rhai yn dweud bod Brexit wedi newid y sefyllfa erbyn hyn a bod angen ail refferendwm.

Daw canlyniadau’r pôl ar adeg pan fo’r SNP yn chwilio am arweinydd newydd, yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog Nicola Sturgeon ei bod hi’n bwriadu camu o’r neilltu.

Mae Humza Yousaf, Kate Forbes ac Ash Regan yn y ras i’w holynu.