Mae undeb newyddiadurwyr yr NUJ yn dweud bod 420 o swyddi yn y fantol, gan gynnwys 192 o swyddi golygyddol, yng nghwmni cyhoeddi Reach.

Daw’r cyhoeddiad bythefnos yn unig ar ôl i broses ddiswyddiadau ddod i ben, pan gafodd dros 80 o swyddi eu colli, ac wythnos yn unig ar ôl i’r cwmni gyhoeddi eu cyfrifon blynyddol ar gyfer 2022.

Ac fe ddaw wrth i’r cwmni geisio arbed £30m eleni.

Yn ôl yr NUJ, eu haelodau “sydd unwaith eto’n teimlo’r boen” a’u nod fydd “cefnogi aelodau sydd wedi cael eu gwthio i bob cyfeiriad gan y busnes ers y flwyddyn newydd”.

“Maen nhw wedi cael digon o eiriau, a byddan nhw’n chwilio am ffyrdd diriaethol y gall y cwmni leihau effaith y cyhoeddiad hwn,” meddai llefarydd.

“Tra bo’r argyfwng costau byw yn cael effaith ar bawb, gan gynnwys staff Reach, yr arweinwyr sy’n penderfynu ar y strategaeth.

“Rydym ymhell o’r cyfnod pan oedd Reach yn buddsoddi mewn safleoedd lleol newyd ac yn ymestyn eu hôl troed ar draws y wlad, gan honni iddyn nhw greu model cynaladwy ar gyfer newyddiaduraeth leol ddigidol-yn-unig.”

Ymateb

“Gyda sefyllfa’r farchnad sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd, rydym wedi gorfod cymryd camau pendant i adolygu costau ar draws y busnes cyfan gan gynnwys cynhyrchu gwaith print, ynni, cyflenwyr allanol, yn ogystal ag, yn anffodus, maint ein timau,” meddai llefarydd ar ran Reach.

“Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo wrth i ni adolygu pob agwedd ar ein trawsnewid strategol, i sicrhau ein bod yn parhau mewn sefyllfa dda i elwa unwaith y daw sefyllfa’r farchnad bresennol i ben.

“Byddwn yn parhau i weithio’n agos gyda’r holl dimau sy’n cael eu heffeithio ac yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu dyfodol hirdymor i’n newyddiaduraeth.”