Mae Unsain wedi croesawu bil sylweddol sy’n rhoi undebau llafur wrth galon penderfyniadau Llywodraeth Cymru.

Budd arweinwyr yr undeb sector cyhoeddus yn clywed darlleniad ola’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 14).

Bwriad y ddeddfwriaeth yw gosod undebau llafur a’u lleisiau wrth galon yr holl benderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan y llywodraeth mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus, waeth pwy sydd mewn grym.

Pe bai’n cael ei basio, byddai’r bil hefyd yn arwain at greu cyngor partneriaeth gymdeithasol, fyddai’n gyfuniad o lywodraeth, cyflogwyr ac undebau llafur.

Mae partneriaeth gymdeithasol yn golygu bod y Llywodraeth, cyflogwyr ac undebau llafur yn cydweithio er mwyn dod o hyd i atebion gwell i faterion sylweddol.

‘Cam mawr ymlaen’

“Mae’r bil hwn yn gam mawr ymlaen ac mae Unsain yn cefnogi’r ddeddfwriaeth hon,” meddai Dominic MacAskill, Ysgrifennydd Rhanbarthol Unsain yng Nghymru, fydd yn mynd i’r Senedd ar gyfer y darlleniad.

“Mae’n bwysig nodi fod gennym yr hawl o hyd i ddechrau anghydfod â chyflogwyr a Llywodraeth Cymru.

“Hefyd, tra gallai llywodraethau newid, mae partneriaeth gymdeithasol yn gwarchod dylanwad undebau llafur waeth pwy sy’n rheoli’r Senedd.”