Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw (dydd Mawrth, Mawrth 14) y bydd pobol â chyflyrau hirdymor yn cael mynediad at wasanaethau Covid hir Cymru wrth i gyllid blynyddol y Gwasanaethau Adferiad godi i £8.3m.

Bydd y gwasanaethau adfer yn parhau i gefnogi pobol sydd â Covid hir, ond byddan nhw hefyd ar gael i bobol sy’n byw gyda chyflyrau hirdymor eraill gydag adferiad yn debyg.

Gall hyn gynnwys pobol gydag enseffalomyelitis myalgig/syndrom blinder cronig (ME/CFS), ffibromyalgia a chyflyrau eraill yn dilyn feirws.

Mae Gwasanaethau Adferiad yn rhoi diagnosis, triniaeth, cymorth adsefydlu, a gofal i bobol sy’n profi effeithiau hirdymor yn sgil Covid-19.

Caiff pobol eu cynorthwyo gan dimau sy’n cynnwys seicolegwyr, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol a nyrsys.

Bydd y cyllid hefyd yn parhau i gefnogi’r ap adfer hunan-reoli Covid-19 a’r canllawiau Cymru gyfan ar gyfer rheoli Covid hir.

Buddsoddi mewn gwasanaethau Adferiad yn ‘flaenoriaeth’

“Mae buddsoddi mewn gwasanaethau Adferiad i gefnogi pobol sy’n dioddef effeithiau hirdymor COVID-19 wedi bod yn flaenoriaeth i ni ac mae hynny’n parhau,” meddai Eluned Morgan, Ysgrifennydd Iechyd Cymru.

“Mae gennym ased cymunedol gwerthfawr o ganlyniad i ddatblygu’r gwasanaethau hyn, ac mae’n rhaid i ni barhau i’w feithrin ac i fanteisio arno.

“Gwyddom fod llawer o bobol â chyflyrau hirdymor eraill wedi teimlo yn ‘anweledig’ a theimlo nad oedd pobol yn eu deall.

“Drwy ehangu mynediad at wasanaethau adferiad gallwn roi gwell cymorth i bobol â chyflyrau fel ME/CFS a ffibromyalgia i gael diagnosis, rheoli eu symptomau a chael mynediad at wasanaethau adferiad sy’n hanfodol i helpu i wella iechyd a llesiant corfforol a meddyliol.

“Rwyf wedi ymrwymo i ehangu capasiti ein gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol.

“Mae’r buddsoddiad rheolaidd hwn, sy’n ategu cyllid arall i ehangu’r capasiti gofal sylfaenol a chymunedol a ddarperir i’r GIG, i awdurdodau lleol ac i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn cefnogi ein huchelgais i wella mynediad at weithwyr iechyd proffesiynol a datblygu gwasanaethau gofal cymunedol ymhellach.”

Dywed Claire Madsen, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, eu bod nhw wrth eu boddau o fod wedi derbyn cyllid rheolaidd.

“Bydd yn ein galluogi i recriwtio i nifer o swyddi, diogelu swyddi, a sefydlu gwasanaethau holistaidd ar gyfer ystod eang o bobol sydd â chyflyrau heriol, gan gynnwys ME a CFS, yn ogystal â Covid hir,” meddai.

“Mae llawer o bobol gyda’r cyflyrau hyn yn teimlo nad yw eu hanghenion iechyd wedi’u bodloni dros y blynyddoedd, a bydd hyn yn ein galluogi i’w cysuro y bydd gwasanaethau’n cael eu datblygu yn y gymuned, yn agosach at eu cartrefi, a fydd yn gallu eu cynorthwyo i reoli eu cyflyrau unigol.”