Mae Cylch yr Iaith yn gwrthwynebu cais cynllunio diwygiedig gan gwmni o Loegr sydd eisiau sefydlu maes gwyliau yng Nghoed Wern Tŷ Gwyn rhwng y Felin Hen a Glasinfryn yn Nyffryn Ogwen.

Y bwriad ydi codi 40 o gabannau a phodiau glampio.

Cafodd y tir, sy’n 6.63 hectar o faint ac yn cynnwys coedlan, ei brynu gan The Luxury Lodge Group Ltd yn Stockport ger Manceinion, sydd wedi ffurfio is-gwmni Coed Wern Ltd ar gyfer datblygu a rheoli’r safle.

Eu bwriad ydi creu atyniad twristaidd yn y rhan yma o Arfon, gan fod y safle rhwng mynydd a môr, ac yn agos at Afon Menai a Pharc Cenedlaethol Eryri.

Yn ôl Cylch yr Iaith, mae’r datblygiad yn annerbyniol am nifer o resymau.

“Gor-ddarpariaeth ydi’r prif reswm dros wrthod y datblygiad arfaethedig hwn,” meddai llefarydd ar ran y mudiad.

“Yr hyn y mae gor-ddarpariaeth yn ei olygu ydi gormod o’r un mathau o ddatblygiadau twristaidd yn y sir, mewn rhan o’r sir, neu mewn cymuned.

“Mae awdurdod cynllunio Cyngor Gwynedd wedi derbyn bod gor-ddarpariaeth yn ffactor perthnasol wrth ystyried cais cynllunio twristaidd ac yn rheswm dros ei wrthod.

Safle arall eto fyth yn Arfon

Yn achos cynllun twristaidd Coed Wern, mae gormod o feysydd cabannau a charafanau gwyliau yn Arfon eisoes.

Mae safleoedd mawr yn y llefydd canlynol:

  • Pont Ogwen, Dyffryn Ogwen (127 uned, a rhagor ar y gweill)
  • Tros y Waen, Rhiwlas (320 uned)
  • Bryn Bras, Llanrug (294 uned)
  • Glan Gwna, Cae Athro (720 uned)
  • Neuadd Glascoed, Llanrug (82 uned)
  • Bryn Gloch, Betws Garmon (153 uned)
  • Parc Coed Helen, Caernarfon (301 uned)
  • Snowdon View, Brynrefail (320 uned)

“Mae gor-ddarpariaeth yn rhan o’r or-dwristiaeth sy’n troi Gwynedd yn faes chwarae ar gyfer Lloegr, ac mae pawb yn gwybod am rannau o’r sir lle mae hyn wedi difetha cymunedau lleol,” meddai Cylch yr Iaith.

“Mae Cyngor Gwynedd wedi derbyn bod y math yma o dwristiaeth yn anghynaliadwy oherwydd bod yr effeithiau negyddol yn gwrthbwyso’r effeithiau cadarnhaol. Rhaid gwrthod y datblygiad.

“Os rhoddir caniatâd cynllunio, mae’n fwy na phosib y byddai cais cynllunio arall yn y dyfodol i ehangu’r safle a chynyddu nifer yr unedau. Gallai agor y drws i ddatblygiadau twristaidd eraill, hefyd.

“Mae Gwynedd eisoes yn cael ei hystyried yn “ardal dwristaidd”, ac o ran y cymunedau cyfagos, mae yna eisoes ail gartrefi ac unedau gwyliau tymor byr.

“Ni all y datblygiad hwn ond gwaethygu hynny.”

Wfftio awgrym ynghylch swyddi newydd

Mae Cylch yr Iaith hefyd yn wfftio’r awgrym y byddai’r datblygiad newydd hwn yn creu swyddi.

“Datblygiad gan gwmni o’r tu allan yw hwn,” meddai’r llefarydd.

“Ni fydd yno angen ond un gofalwr, a gellir dod â phob anghenrhaid a gwasanaeth yno ar hyd yr A55 mewn dim o dro.

“Nid rhaid cyflogi neb lleol, na phrynu dim yn lleol.

“Nid mater o greu cynhaliaeth i bobol leol yw hyn, ond o greu elw i gwmni nad yw’r ardal na’r gymuned yn golygu dim iddynt.

“Bydd Cylch yr Iaith yn pwyso ar aelodau Pwyllgor Cynllunio Gwynedd i wrthod caniatâd cynllunio i’r datblygiad niweidiol hwn.”