Mae pôl piniwn newydd gan ITV Cymru Wales a Phrifysgol Cymru wedi datgelu bod y mwyafrif o bobol yng Nghymru eisiau i nyrsys dderbyn codiad cyflog, ond yn ansicr sut i dalu amdano.
Datgelodd arolwg barn Barn Cymru gafodd ei gynnal gan YouGov fod 86% o bobol Cymru yn cefnogi codi cyflogau nyrsys y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ond dywedodd ychydig llai na thraean o’r rhai gafodd eu holi (29%) y bydden nhw’n fodlon talu mwy o dreth er mwyn galluogi codiad cyflog.
Er bod y gefnogaeth i godiad cyflog nyrsys yn y pôl “bron mor uchel ag y byddwch chi’n ei gael” o ddata pleidleisio, yn ôl Dr Jac Larner o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, doedd bron i hanner y rhai gafodd eu holi naill ai ddim yn gwybod sut y dylid ei ariannu neu ddim yn cytuno â’r opsiynau gafodd eu cynnig yn y bleidlais.
Byddai’n well gan 21% o’r rhai gafodd eu holi pe bai gwasanaethau eraill yn cael eu torri er mwyn ariannu’r codiad cyflog, ac ychydig iawn (5%) fyddai’n cefnogi gostyngiad mewn gwariant yng ngwasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i ariannu’r codiad cyflog.
“Dryswch” am ariannu
“Pan fyddwn yn gofyn sut i ariannu’r pethau hynny, mae yna lawer o ddryswch,” meddai Dr Jac Larner o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd.
“Mae’r economi yn gymhleth ac mae wedi’i gwneud yn fwy cymhleth, pan, yn ystod trafodaethau streic, mae’n ymddangos bod cyfnod o amser lle bydd y llywodraeth yn dal allan ac yn dweud ‘allwn ni ddim fforddio gwneud hyn’ ac yna ychydig wythnosau’n ddiweddarach mae yna setliad.
“Felly mae’n debyg nad yw’n gwbl glir ym meddyliau pobol sut yr ydym yn ariannu’r pethau hyn yn y lle cyntaf.
“Nid yw’n syndod nad yw pobol yn hollol siŵr.”
Llafur yn dominyddu’r Ceidwadwyr yng Nghymru
Datgelodd y pôl hefyd fod Rishi Sunak, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wedi methu ag adennill y pleidleiswyr o Gymru gafodd eu colli yn ystod cyfnod byr ei ragflaenydd Liz Truss wrth y llyw.
Dim ond 20% o’r rhai atebodd yr arolwg fyddai’n pleidleisio dros gadw Llywodraeth Geidwadol bresennol y Deyrnas Unedig, gyda’r mwyafrif (49%) yn dewis Llafur.
Mae’r darlun yn debyg iawn i fwriadau pleidleisio’r Senedd, gyda Llafur Cymru yn parhau i fod ar y blaen fel y blaid wleidyddol fwyaf poblogaidd ymhlith pleidleiswyr.
“Nid yw’n ymddangos bod pleidleiswyr yn argyhoeddedig bod Rishi Sunak yn blaenoriaethu buddiannau Cymru, hyd yn oed os oes ychydig o lygedyn o obaith i’r Ceidwadwyr yng Nghymru,” meddai Adrian Masters, Golygydd Gwleidyddol ITV Cymru.
“Hyd yn oed gyda gostyngiad bach, parhaodd Llafur yng Nghymru i fwynhau perfformiad cryf yn y pôl hwn gyda Keir Starmer yn llygadu ennill mwyafrif yn etholiad nesaf y Deyrnas Unedig yn seiliedig ar y ffigurau hyn.”