Wrth i gynadleddau COP27 dynnu tua’u terfyn yn yr Aifft, parhau mae’r sgyrsiau yma yng Nghymru

Bydd trafodaethau nawr yn dechrau ar destun y cytundeb swyddogol a ddaw allan o Sharm el-Sheikh.

Mae llawer i’w wneud o hyd, o ystyried pwysau gwleidyddol cynyddol gan wledydd a chymunedau gaiff eu heffeithio fwyaf gan yr argyfwng hinsawdd.

Ydy addewidion COP26 yn Glasgow wedi’u gwireddu?

Mae’r frwydr am gyfiawnder hinsawdd yn ddi-dor, ac yn un sy’n cael ei gweithredu yn y tymor byr a’r tymor hir.

Erbyn diwedd COP26 y llynedd, cyflwynodd 151 o wledydd gynlluniau hinsawdd newydd i gyfyngu ar allyriadau erbyn 2030. Mae’n rhaid sicrhau hyn er mwyn peidio mynd dros y 1.5C, ac er mwyn gwneud hyn, mae angen haneru allyriadau erbyn diwedd y ddegawd.

Ond os ydym yn parhau fel yr ydym, fe fydd y tymheredd yn 2.5C erbyn diwedd y ganrif.

Dywedodd Alok Sharma, Llywydd COP26 yn y Deyrnas Unedig, y “gallwn ddweud gyda hygrededd ein bod wedi cadw at 1.5C, ond mae ei guriad yn wan a bydd ond yn goroesi os byddwn yn cadw at ein haddewidion, a gweithredu’n gyflym”.

Boris Johnson yn COP26

Roedd cynadleddau Glasgow wedi galw ar wledydd i “ailedrych a chryfhau” eu targedau erbyn diwedd 2022, i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â nodau Cytundeb Paris.

Yn ychwanegol i hyn, mae angen i wledydd gyflwyno strategaethau hirdymor ar gyfer 2050 wrth geisio sicrhau allyriadau net-sero.

Fe fyddwn yn gallu gweld llwyddiant uniongyrchol Glasgow ymhen blynyddoedd i ddod, ac nid yn syth.

Yn 2019, nododd Llywodraeth Cymru eu huchelgais i adnewyddu economi Cymru fel rhan o’r newid byd-eang o ran allyriadau net-sero.

Achos datganoledig ydy cynhesu byd eang, ac mae Llywodraeth Cymru’n gosod eu targedau eu hunain. Un o’r nodau ydy torri allyriadau gan 63% erbyn 2030, gan gyrraedd net sero erbyn 2050; mae Cymru’n cyfrif am 10% o allyriadau’r Deyrnas Unedig.

Beth ddaeth o COP27?

Un o weledigaethau Abdel Fattah El-Sisi, Arlywydd yr Aifft, oedd “ymrwymo i’r rheolau a’r egwyddorion sy’n llywodraethu eu gweithredoedd wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd a’i effeithiau”.

Un o dargedau COP27, meddai, oedd symud o addo i weithredu ar raddfa fawr, yn seiliedig ar y gwaith gafodd ei gytuno yn Paris ac uchelgeisiau Glasgow.

“Mae’n bryd cyflymu, cynyddu ac ailadrodd straeon llwyddiannus ac ymateb i atebion drwy’r mecanweithiau cywir,” meddai.

Roedd pedwar pryder allweddol yn y gynhadledd:

  • cynlluniau gwledydd i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn unol â chyfyngu gwresogi byd-eang i 1.5C uwchlaw lefelau cyn-ddiwydiannol
  • sut i helpu gwledydd datblygol i addasu i effeithiau’r argyfwng hinsawdd
  • cyllid i wledydd datblygol i leihau allyriadau ac addasu i dywydd eithafol
  • colled a difrod, sy’n cwmpasu ffyrdd o helpu gwledydd sy’n cael eu heffeithio gan ddifrod gwael yn sgil trychinebau hinsawdd.

A oedd unrhyw gyflawniadau?

Un mater yn y testun drafft oedd fod rhaid defnyddio iaith sydd yn cydnabod fod angen i’r byd “raddio pob tanwydd ffosil” fesul dipyn.

Mae’r ymgyrch, gaiff ei harwain gan India a grwpiau cymdeithas sifil, wedi ennill momentwm dros y bythefnos, gan ennill cefnogaeth yr Unol Daleithiau, yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig. Ond mae Iran, Saudi Arabia a gwladwriaethau eraill y Gwlff yn ei wrthwynebu.

Roedd y testun drafft a gafodd ei ryddhau gan lywyddiaeth COP27 ar Dachwedd 19 yn lle hynny yn cynnwys cyfeiriad yn unig at ddod â phŵer glo i lawr yn raddol, a gafodd ei gytuno gyntaf yn COP26 yn Glasgow y llynedd.

Datgelodd astudiaeth gafodd ei chyhoeddi yr wythnos hon fod dros 600 o lobïwyr tanwydd ffosil wedi cael mynediad i drafodaethau hinsawdd COP27 – 25% yn fwy na’r llynedd yn COP26.

“Mae unrhyw nifer o eiriolwyr tanwydd ffosil yn swm annerbyniol ac os yw’r Cenhedloedd Unedig o ddifrif am gyflawni unrhyw gamau hinsawdd go iawn, rhaid iddynt gael gwared ar y llygrwyr mawr,” meddai Greenpeace.

Wrth ymateb i hyn, dywedodd cynrychiolydd o Affrica, “Os ydych chi am fynd i’r afael â malaria, nid ydych chi’n gwahodd y mosgitos.”

Anodd yw diffinio unrhyw gyflawniadau wrth i gynhadledd orffen, felly amser a ddengys, ond cafodd sawl carreg filltir ei bwrw.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • ariannu a chyllid;
  • lleihau cost benthyca gwyrdd; a
  • sichrau mynediad at gyllid gwyrdd fforddiadwy yn y byd datblygol.

Roedd pwyslais ar lais y rhai ifanc a hawliau menywod.

Dywedodd H.E. Sameh Shoukrysaid, Llywydd COP27, fod “Affrica yn gyfrifol am lai na 4% o allyriadau byd-eang ac yn cael ei chosbi’n anghymesur gan effaith newid hinsawdd.

“Mae merched cefn gwlad ar y cyfandir ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig gan eu bod yn cario’r pwysau wrth weithio gartref ac yn y caeau, ac yn cael eu heffeithio’n wael gan ddadleoliad oherwydd newid hinsawdd.”

Llais i Gymru

Dywed Delyth Jewell, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd, fod Llywodraeth Cymru’n cymryd sefyllfa’r hinsawdd yn “ddifrifol iawn”, ond mae hi’n cwestiynu a yw Cymru wedi “colli cyfle” gan nad oedd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi mynychu COP27 yn yr Aifft.

Ond penderfynodd beidio â mynychu’r uwchgynhadledd am nad oedd yn ddigwyddiad lle’r oedd gweinidogion yn gwneud penderfyniadau polisi, ac ar ôl “ystyried ôl troed carbon” wrth deithio yno.

“Pam fod llywodraeth Cymru yn ystyried mynd i COP27 yn ddefnydd amhriodol o filltiroedd awyr ar y naill law, ond eto maen nhw’n bwrw ymlaen ar daith amhriodol i Qatar ar y llaw arall?” meddai Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.

“Mae’r ymweliad arfaethedig â Qatar gan dri gweinidog Llafur yn gwbl ddiangen ac amhriodol. Rhaid i Lafur Cymru ganslo eu taith ar unwaith a chymryd safiad cryf ar hawliau dynol yn hytrach na cheisio buddsoddiad ar unrhyw gost.”

“Rhaid i’r newid i net-sero fod yn seiliedig ar gyfiawnder cymdeithasol a gadael neb ar ôl. Rhaid i ni beidio ag osgoi’r hyn sy’n gorfod cael ei wneud dros y deng mlynedd nesaf a fydd yn siapio dyfodol ein gwlad,” meddai Julie James.

“Mae Cymru wedi hen ennill ei phlwyf fel ailgylchwr gorau’r Deyrnas Unedig ac mae’r ystadegau newydd sy’n dangos ein bod yn rhagori ar y targed ailgylchu statudol o 64% gan daro 65.2%.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1bn mewn ailgylchu ers datganoli, ac mae hynny wedi helpu codi cyfraddau o’r 4.8% pitw ym 1998-99 i 65% a mwy heddiw.”

Ar ôl pythefnos gymhleth, mae COP27 yn brawf fod y sgwrs yn fwy byw nag erioed.

Dydy’r nod ddim wedi newid, ac mae angen llawer o waith i’w wneud, er mwyn i weledigaethau COP27 weithio a dod yn fyw.

Llun o'r Ddaear

COP27: Sut allwn ni yma yng Nghymru leihau ein hôl-troed carbon a dileu ein heffaith negyddol ar yr hinsawdd?

Nel Richards

Mae golwg360 wedi bod yn holi pobol ifanc Cymru beth maen nhw’n ei wneud er mwyn lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd
Llun o'r Ddaear

COP27: Beth allwn ni yng Nghymru ei ddisgwyl?

Nel Richards

Nel Richards sy’n edrych ar rai o’r pynciau trafod yn yr Aifft fydd yn berthnasol i ni yma yng Nghymru